Kancoat: 'Pryderon difrifol' am fuddsoddi arian cyhoeddus

  • Cyhoeddwyd
Arwydd Kancoat

Mae grŵp o ACau yn dweud bod ganddyn nhw "bryderon difrifol" am benderfyniad Llywodraeth Cymru i fuddsoddi dros £3m mewn cwmni yn Abertawe.

Cyn mynd i'r wal, roedd Kancoat wedi derbyn help ariannol gwerth £3.4m, er i weision sifil rybuddio bod y cynllun busnes yn "wan".

Mae Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad yn dweud bod y llywodraeth wedi anwybyddu eu polisïau ar ddiwydrwydd dyladwy, cyn rhoi mwy o arian i'r cwmni.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi "gwneud llawer o newidiadau" ers yr achos, gan ychwanegu eu bod yn "croesawu'r adroddiad".

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Kancoat yn gweithredu ar safle yn Waunarlwydd, Abertawe, ble roedd ffatri Alcoa gynt

Roedd Kancoat, oedd wedi ei leoli yn hen ffatri Alcoa yn Waunarlwydd, Abertawe wedi ei sefydlu i orchuddio caniau bwyd a chynhyrchion eraill â metel.

Rhwng Mai 2012 a Chwefror 2014 fe gafodd y gwaith sawl grant a benthyciad gwerth £3.4m gan Lywodraeth Cymru.

Roedd y rhan fwyaf o'r cymorth ariannol wedi ei roi wedi i adolygydd ariannol diwydrwydd dyladwy y llywodraeth ei hun godi pryderon am ddyfodol ariannol Kancoat yn Chwefror 2013.

Fe oedd yr adolygiad yn dweud bod cynllun busnes Kancoat yn "ymddangos yn wan ac yn anghyson" a bod y prosiect yn cael ei nodi fel un risg uchel.

Roedd cais blaenorol am gymorth wedi ei wrthod gan Cyllid Cymru, adain y Llywodraeth oedd yn delio gyda buddsoddiadau, oherwydd risg "uchel annerbyniol."

Aeth y cwmni i ddwylo'r gweinyddwyr ym mis Medi 2014.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd rhai'n amau bod y penderfyniad i roi grantiau a benthyciadau i Kancoat gyfystyr â gwrthdaro buddiannau

Mae adroddiad ddydd Mawrth gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn nodi bod buddsoddiad y llywodraeth wedi "herio ei diwydrwydd dyladwy" ac wedi methu "cydnabod nac ymateb i risgiau posib."

Roedd y pwyllgor hefyd yn nodi nad oedd wedi ei argyhoeddi y dylai'r llywodraeth fod wedi cynnig y buddsoddiad gwreiddiol, gan ddweud ei bod am weld "asesiadau risg mwy cadarn gan Lywodraeth Cymru" yn y dyfodol.

Mae gan y pwyllgor nifer o argymhellion gan gynnwys:

  • Dylai penderfyniadau buddsoddi sy'n mynd yn groes i gyngor swyddogol gael eu dogfennu'n glir.

  • Bod Llywodraeth Cymru yn cynhyrchu canllawiau cadarn wedi'u diweddaru ar gyfer adnabod ac ymateb i risgiau.

  • Bod y prif weinidog yn sicrhau bod y cod gweinidogol yn gofyn am ystyriaeth o wrthdaro buddiannau ac y dylai canlyniad yr ystyriaeth honno gael ei dogfennu yn llawn ac yn ffurfiol.

'Gwrthdaro buddiannau posib'

Ym mis Awst 2016 dywedodd cyn oruchwylydd ar safonau mewn bywyd cyhoeddus fod swyddi posib i etholwyr Edwina Hart yn golygu bod yna wrthdaro buddiannau posib. Roedd gwaith Kancoat o fewn hanner milltir i'w hetholaeth.

Roedd y Ceidwadwyr yn ddiweddarach wedi honni bod Ms Hart wedi torri cod gweinidogol drwy gytuno i'r arian, honiad a gafodd ei wrthod gan Lywodraeth Cymru.

Mae adroddiad heddiw yn dweud nad yw'r pwyllgor wedi darganfod unrhyw dystiolaeth o ddylanwad amhriodol gan Ms Hart, ond y dylid fod wedi adnabod y potensial o'r hyn a ellid fod wedi ei ystyried fel gwrthdaro buddiannol posib.

'Cymhleth'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym ni'n croesawu'r adroddiad hwn gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad a byddan ni nawr yn ystyried ei ganfyddiadau'n llawn.

"Roedd hwn yn achos cymhleth, fel mae'r adroddiad blaenorol gan Swyddfa Archwilio Cymru yn ei gydnabod.

"Fel rhan o'n ymroddiad i welliant parhaol, rydym yn adolygu ein dulliau gweithredu yn aml ac rydym wedi gweithredu nifer o newidiadau ers yr achos hwn.

"Rhwng 2011 a 2016, rydym wedi cefnogi bron i 150,000 o swyddi yn economi Cymru ac mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod cwmnïau yng Nghymru yn para'n hwy na'r cyfartaledd yn y DU."