Disodli Hamilton fel arweinydd grŵp UKIP yn y Cynulliad

  • Cyhoeddwyd
Hamilton
Disgrifiad o’r llun,

Mae Neil Hamilton wedi cael ei ddisodli fel arweinydd grŵp UKIP yn y Cynulliad, a Caroline Jones fydd yn ei olynu

Mae Neil Hamilton wedi cael ei ddisodli fel arweinydd grŵp UKIP yn y Cynulliad yn dilyn pleidlais ymhlith ACau'r blaid.

Caroline Jones, Aelod Cynulliad y blaid yn rhanbarth Gorllewin De Cymru, sydd wedi'i dewis i'w olynu.

Daeth y penderfyniad ddiwrnod wedi adroddiadau o gyfarfod tanllyd rhwng ACau'r blaid ynglŷn â'r arweinyddiaeth.

Cafodd Mr Hamilton ei ddewis fel arweinydd y grŵp yn dilyn etholiadau'r Cynulliad yn 2016, pan gafodd saith o ACau UKIP eu hethol.

Ar y pryd, Nathan Gill oedd arweinydd UKIP yng Nghymru, ond fe benderfynodd eistedd fel AC annibynnol ar ôl cael ei drechu gan Mr Hamilton.

Anghydfod

Fe gadarnhaodd Caroline Jones ei bod wedi ennill mwyafrif yn y bleidlais ddydd Iau, ond wnaeth hi ddim cadarnhau pa ACau oedd wedi pleidleisio drosti.

"Dwi'n falch iawn eu bod wedi rhoi eu ffydd ynof fi i'w harwain nhw yn y Senedd a'n symud ni 'mlaen," meddai.

"Mae Neil wedi gwneud gwaith da, gwaith da iawn. Mae'n wleidydd medrus. Bydd yn anodd dilyn ei esiampl."

Ychwanegodd ei bod yn bwriadu parhau fel grŵp o bum aelod, ac y byddai gwahoddiad yn cael ei ymestyn i Mandy Jones ailymuno â nhw.

"Mae Neil wedi gweithio'n galed iawn. Nawr mae'n bryd i rywun arall gymryd yr awenau ac adnewyddu'r blaid," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n debyg fod Gareth Bennett wedi gadael cyfarfod ACau UKIP wedi iddi ddod i'r amlwg fod her i arweinyddiaeth Neil Hamilton

Dywedodd ffynonellau wrth BBC Cymru fod yr AC Gareth Bennett wedi gadael cyn diwedd cyfarfod tanllyd ddydd Mercher, pan ddaeth hi'n amlwg fod her i'r arweinyddiaeth ar fin digwydd.

Roedd sôn y gallai'r grŵp rannu, gyda Ms Jones, David Rowlands a Michelle Brown yn gadael, ac roedd hi'n ymddangos erbyn prynhawn ddydd Iau fod safle Mr Hamilton yn ddiogel.

Ond yna daeth y newyddion fod ACau'r blaid wedi cynnal pleidlais, ac i Ms Jones gael ei dewis fel arweinydd.

Dadansoddiad Golygydd Materin Cymreig BBC Cymru, Vaughan Roderick:

Nid hwn yw'r tro cyntaf i ffraeon personol ac ymgecru dorri mas yn rhengoedd UKIP, ond fe fydd y ffrae ddiweddaraf yn un hynod niweidiol o gofio bod y grŵp ym Mae Caerdydd yn cynrychioli un o droedleoedd olaf y blaid yng nghoridorau grym.

Ymddengys mai tuedd Neil Hamilton i gymryd penderfyniadau heb ymgynghori ag aelodau eraill y grŵp oedd yn gyfrifol am ei gwymp.

Mae'n debyg mai penderfyniad i beidio cefnogi rheolau llym newydd i sicrhau tegwch a pharch yn y Cynulliad mewn pleidlais ddoe oedd yr hoelen olaf yn yr arch i'r gwleidydd dadleuol.

Dyw hi ddim yn eglur eto a fydd Mr Hamilton yn parhau'n aelod o'r grŵp neu hyd yn oed y Cynulliad, ond mae'r her sy'n wynebu Caroline Jones, gwleidydd cymharol ddibrofiad, yn un enfawr.

Cododd tensiynau yn y blaid yn ddiweddar wedi i Mr Bennett, AC Canol De Cymru, gefnogi penderfyniad gan y pwyllgor safonau i argymell y dylai Ms Brown gael ei diarddel o'r Cynulliad am wythnos am wneud sylw hiliol.

Mewn datganiad pan ddaeth y penderfyniad i'r amlwg dywedodd Ms Brown nad oedd hi'n "debygol o gymryd gwersi mewn cywirdeb neu ymddygiad gwleidyddol gan Gareth Bennett".

Yn ddiweddarach daeth i'r amlwg fod Ms Brown, Ms Jones a Mr Rowlands wedi gwrthod argymhelliad Mr Hamilton y dylai Mr Bennett ymuno â phwyllgor cenedlaethol gweithredol y blaid.

Yn hytrach na chefnogi enwebiad Mr Bennett, fe wnaeth y tri gefnogi Ms Brown.

Gyda Mr Hamilton eisoes yn arweinydd y grŵp yn y Cynulliad, cafodd hefyd ei wneud yn arweinydd UKIP yng Nghymru y llynedd gan arweinydd newydd y blaid ym Mhrydain ar y pryd, Henry Bolton.

Deufis yn ddiweddarach fe adawodd Mr Gill ei swydd fel AC, gyda Mandy Jones yn ei olynu.

Ond fe ddywedodd yr AC newydd nad oedd hi eisiau bod yn rhan o grŵp UKIP yn y Cynulliad, gan honni fod rhai aelodau wedi ei bwlio.

Roedd UKIP eisoes wedi colli un AC, Mark Reckless, pan benderfynodd ym mis Ebrill 2017 i ymuno â grŵp y Ceidwadwyr.