Galw am gŵn heddlu mewn digwyddiadau torfol wedi dyblu
- Cyhoeddwyd
Mae presenoldeb cŵn synhwyro ffrwydron yr heddlu mewn digwyddiadau mawr torfol yn y de wedi dyblu yn y ddwy flynedd ddiwethaf.
Yn 2017, roedd y cŵn yn bresennol mewn 374 o achlysuron, gan gynnwys cyngherddau a digwyddiadau chwaraeon, o'i gymharu â 186 yn 2015.
Dywedodd hyfforddwyr y cŵn bod natur eu gwaith yr un fath ag erioed, ond bod newid dramatig wedi bod ym maint digwyddiadau, ynghyd â chynnydd yn y rhestr o ddeunyddiau mae gofyn iddyn nhw geisio darganfod.
Yn dilyn ymosodiadau terfysgol ym Manceinion a Llundain y llynedd mae'r lefel bygythiad terfysgol posib ar draws y DU yn "ddifrifol".
Dywedodd y Sarjant Ian Roderick, prif hyfforddwr cŵn Heddlu De Cymru, bod yr adran yn datblygu eu dulliau gweithredu yn gyson gan fod terfysgwyr wastad yn edrych am ffyrdd newydd o geisio cael y gorau arnyn nhw.
"Roedd plismona digwyddiad chwaraeon yn arfer ymwneud ag atal anhrefn, ond nawr mae'n golygu bod yn wyliadwrus rhag ymosodiad," meddai.
"O'r blaen, roedd yn ymwneud â gwarchod person [fel aelod o'r Teulu Brenhinol], ond nawr mae'n golygu gwneud y digwyddiad yn ddiogel i bawb."
Mae gwaith y tîm yn cynnwys archwilio canolfannau cyn digwyddiadau mawr, gan asesu a rheoli'r risg o ymosodiad, yn ogystal â bod ar ddyletswydd yn y digwyddiad ei hun.
Dywedodd yr Arolygydd Frances Williams, arweinydd adran cŵn a cheffylau Heddlu'r De: "Dydw i ddim yn meddwl bod rhag-gynllunio'r digwyddiadau eu hunain wedi newid, ond mae'r ffocws efallai wedi newid o ran graddfa.
"Rydyn ni eisiau rhoi sioe ymlaen a sicrhau fod pawb sy'n dod yma yn teimlo'n ddiogel, a lleihau'r effaith ar y cyhoedd a chymunedau.
"Yn y pump i 10 mlynedd diwethaf mae rhai o'r bygythiadau wedi newid ychydig ond mae ein hymateb wastad yn aros yr un fath."
Dywedodd y tîm ei bod yn hanfodol i wybod am y datblygiadau diweddaraf o ran deunyddiau ffrwydrol a chyffuriau.
Maen nhw'n gweithio gyda llywodraethau, gwyddonwyr fforensig ac archwilwyr safleoedd trosedd i gael y deunyddiau diweddaraf er mwyn hyfforddi'r cŵn i'w synhwyro.
Ychwanegodd y Sarjant Roderick: "Er ein bod yn cyflwyno deunyddiau newydd i'r cŵn, dyw e ddim yn golygu eu bod yn anghofio'r hen rai."
Mae'r digwyddiadau y bydd y tîm yn helpu i'w plismona eleni yn cynnwys y Volvo Ocean Race ym Mae Caerdydd ym mis Mai, cyngherddau'r Rolling Stones, Beyonce a Jay-Z, ac Ed Sheeran ym Mehefin a Phenwythnos Mwyaf Radio Un yn Abertawe.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2018