Rhybudd i ffermwyr wedi lladradau beiciau cwad

  • Cyhoeddwyd
Beic cwad

Mae Heddlu Dyfed Powys yn cynghori ffermwyr i fod yn wyliadwrus wedi i 30 o feiciau cwad gael eu dwyn yn ardal y llu ers mis Tachwedd.

Mae 18 beic wedi eu dwyn yn Sir Gaerfyrddin, gyda 13 o'r rheiny wedi cael eu dwyn o ffermydd yn y sir ers mis Mawrth.

Dywedodd ffermwr o ardal Caerfyrddin wrth BBC Cymru bod lladrad liw nos ar y fferm wedi cael ergyd ar ei hyder, ar ôl iddo golli dau feic cwad mewn un noson.

'Teimlad ofnadwy'

"Dwgodd rywun fy quad bikes i yn ganol nos. Mae'n deimlad ofnadwy," meddai'r ffermwr, oedd eisiau aros yn ddienw.

"Heblaw am y gost, chi'n gweld eisiau'r beic straight away. Dyw e ddim yn deimlad neis iawn, a dweud y gwir.

"Fel ffermwr, chi mas yn y nos - chi ddim yn meddwl bod neb amwbyti'r lle, ond maen nhw wedi bod.

"'Na gyd sydd ar eich meddwl chi a bod yn onest. Licen i gael y beics nol a bod yr heddlu yn gallu dala nhw.

Disgrifiad,

Dywedodd un ffermwr, oedd eisiau aros yn ddi-enw, wrth Aled Scourfield bod lladrad wedi cael ergyd ar ei hyder

Mae Heddlu Dyfed Powys yn cynghori ffermwyr lleol i gadw eu hoffer yn ddiogel.

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Robyn Mason: "Rwy'n gofyn i ffermwyr lleol i weithredu er mwyn lleihau'r perygl o ladrad.

"Mae hynny'n golygu peidio â gadael allweddi yn y cerbydau, a chloi adeiladau ble mae beiciau cwad yn cael eu cadw.

"Rwy'n annog unrhyw un sydd yn byw mewn cymuned wledig i fod yn wyliadwrus, ac i gysylltu â'r heddlu ar 101 os ydyn nhw yn gweld cerbydau amheus."

'Pryder'

Yn ôl Brian Richards o Undeb Amaethwyr Cymru mae'r achosion o ddwyn yn destun pryder i aelodau.

"Mae'n dipyn o bryder. Meddwl bod rhywun yn dwyn y beic a meddwl beth arall maen nhw wedi gweld," meddai.

"Mae'n rhaid ceisio cloi'r beics lan gyda'r nos. Dwi'n gwybod bod e'n lot o waith. Mae'n werth ceisio cadw peiriant o'u blaen nhw."

Yn ystod y misoedd diwethaf mae yna achosion o ddwyn wedi eu cofnodi ym Mheniel, Doc Penfro, Llandeilo a Llanybri.