Cyngor Môn yn penderfynu gwerthu Cwrs Golff Llangefni

  • Cyhoeddwyd
Golff

Mae Cyngor Ynys Môn wedi penderfynu gwerthu Cwrs Golff Llangefni gyda'r gobaith o "wella gwasanaethau eraill".

Bydd 42 acer o'r cwrs golff a'r ffermdy sydd ar y tir yn cael ei werthu ar y farchnad agored, ond mae'r cyngor yn bwriadu cadw'r llain ymarfer ar agor.

Dywedodd yr awdurdod y bydd yr elw o werthu'r cwrs yn cael ei ddefnyddio i "wella a moderneiddio gwasanaethau hamdden eraill".

Dyma'r cwrs y bu Danny Willet, pencampwr Meistri America yn 2016, yn ymarfer arno pan oedd yn ifanc.

Colledion

Bu bron i'r cwrs naw twll gau ym mis Mai 2015 ond fe ddaeth Partneriaeth Llangefni i'r adwy a chymryd cyfrifoldeb am redeg y cwrs.

Roedd Cyngor Sir Ynys Môn, sy'n berchen ar y safle, yn bwriadu cau'r clwb golff yn 2015 er mwyn arbed arian, gan ddweud ei fod yn gwneud colledion ers sawl blwyddyn.

Mewn llythyr at brif weithredwr y cyngor yn ystod Awst 2016 fe alwodd Willett am gadw'r clwb ar agor.

Dywedodd: "Dwi wir yn gobeithio y bydd y cyngor yn cadw'r adnodd ar agor er budd golff ac er budd y gymuned."

Ffynhonnell y llun, Google

Y llynedd fe gytunodd yr awdurdod i ymestyn y cytundeb tan eleni ond cytunodd pwyllgor gwaith y cyngor ddydd Llun y byddai'r safle'n cael ei werthu.

Dywedodd Cyngor Môn y byddai'r elw o'r gwerthiant yn mynd tuag at "welliannau i Ganolfan Hamdden Plas Arthur, gan gynnwys ardal chwarae feddal newydd ar gyfer plant a theuluoedd".

'Cyrsiau golff gwych'

Ychwanegodd y Cynghorydd Carwyn Jones, sydd â chyfrifoldeb dros wasanaethau hamdden y cyngor: "Er ein bod yn lleihau'r ddarpariaeth golff yn eiddo'r cyngor, bydd diogelu'r derbyniadau cyfalaf ar gyfer cryfhau'r ddarpariaeth Hamdden ar Ynys Môn yn gam hynod o bositif i'r dyfodol.

"Rwyf hefyd yn ymwybodol iawn bod yna eisoes gyrsiau golff gwych ar draws yr Ynys Môn, a byddwn yn annog pobl i gefnogi'r cyrsiau golff yma.

"Bydd y llain ymarfer, siop, adeiladau, maes parcio ac ardal ymarfer fechan yn cael eu cadw er mwyn creu darpariaeth golff 9.34 acer er mwyn cefnogi'r rhai hynny sy'n dymuno dechrau chwarae neu ymarfer."