Arweinydd newydd grŵp UKIP heb ddatgan swydd ei gŵr
- Cyhoeddwyd
Mae BBC Cymru yn deall bod arweinydd newydd grŵp UKIP yn y Cynulliad wedi bod yn cyflogi ei gŵr ers dros flwyddyn heb iddi ddatgan hynny'n ffurfiol.
Mae Alun Williams wedi bod yn gweithio i Caroline Jones AC ers Ebrill 2017 fel gweithiwr achos cymunedol llawn amser.
Doedd y ffaith ei fod yn cael ei gyflogi ddim wedi'i ddatgan ar gofrestr buddiannau Ms Jones, fel sy'n rhaid gwneud dan reolau'r Cynulliad.
Dywedodd Ms Jones ei fod yn gamgymeriad, a bod hynny wedi cael ei gywiro ddydd Mawrth yn dilyn ymholiadau BBC Cymru.
'Ddim yn rhan o'i recriwtio'
"Doeddwn i ddim yn rhan o recriwtio fy ngŵr - MBS wnaeth ddelio â'r broses gydag ychydig iawn o gyfraniad gan fy swyddfa i," meddai Ms Jones mewn datganiad.
"Roedd y broses yn agored a theg, ac fe gafodd fy ngŵr ei ddewis am mai ef oedd y person gorau ar gyfer y swydd.
"Am mai MBS oedd yn delio â'r holl broses, roedd fy swyddfa yn credu y byddai'r Gofrestr Buddiannau yn cael ei ddiweddaru'n awtomatig.
"Unwaith y cefais fy ngwneud yn ymwybodol o'r camgymeriad fe wnes i ddiweddaru fy nghofrestr yn syth."
Fe ddaeth Ms Jones yn arweinydd grŵp UKIP yn y Cynulliad wedi i Neil Hamilton gael ei ddisodli'r wythnos diwethaf.
Mae BBC Cymru wedi gofyn am sylw gan Gomisiwn y Cynulliad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mai 2018
- Cyhoeddwyd18 Mai 2018