Cyhoeddi carfan merched Cymru i herio Bosnia a Rwsia

  • Cyhoeddwyd
CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd merched Cymru ganlyniad gwych oddi cartref yn erbyn Lloegr yn eu gêm ddiwethaf

Mae rheolwr tîm pêl-droed merched Cymru, Jayne Ludlow wedi enwi carfan o 23 chwaraewr ar gyfer dwy gêm allweddol fis nesaf.

Fydd yr ymosodwr Charlie Estcourt ddim ar gael oherwydd anaf, ond mae gweddill prif sêr y garfan wedi'u cynnwys.

Mae Ludlow hefyd wedi ychwanegu pedair chwaraewr arall oedd ddim yn y garfan ddiwethaf - Ffion Morgan, Tamsyn Sibanda, Olivia Clarke a Grace Horrell.

Fe fydd Cymru, sy'n ail yn eu grŵp rhagbrofol ar hyn o bryd ar gyfer Cwpan y Byd 2019, yn wynebu Bosnia-Herzegovina ar 7 Mehefin a Rwsia ar 12 Mehefin.

Llwyddodd y tîm i gael canlyniad cyfartal 0-0 yn erbyn Lloegr yn eu gornest diwethaf, canlyniad sy'n golygu eu bod nhw dal heb golli yn yr ymgyrch hyd yn hyn a dal heb ildio gôl.

Fe fyddan nhw'n herio Bosnia, tîm maen nhw eisoes wedi curo oddi cartref, yn Stadiwm Liberty yn Abertawe cyn croesawu Rwsia i Gasnewydd bum niwrnod yn ddiweddarach.

Ar hyn o bryd mae Cymru ddau bwynt y tu ôl i Loegr sydd ar frig Grŵp A, ond os ydyn nhw'n gorffen yn ail mae ganddyn nhw obaith o gyrraedd y gemau ail gyfle.

Y garfan yn llawn:

Claire Skinner, Laura O'Sullivan, Olivia Clarke, Loren Dykes, Sophie Ingle, Hayley Ladd, Rhiannon Roberts, Elise Hughes, Alice Griffiths, Gemma Evans, Natasha Harding, Ffion Morgan, Jess Fishlock, Angharad James, Rachel Rowe, Kylie Nolan, Melissa Fletcher, Nadia Lawrence, Tamsyn Sibanda, Grace Horrell, Helen Ward, Kayleigh Green, Hannah Miles.