'Atal cytundebau llywodraeth' i gyflogwyr dim oriau

  • Cyhoeddwyd
Care workerFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae camau yn cael eu cymryd i geisio atal y defnydd o gytundebau dim oriau yn y sector gofal yn y cartref

Ni ddylai cwmnïau sy'n cyflogi gweithwyr ar gytundebau dim oriau gael cynnig gwaith, grantiau na benthyciadau gan Lywodraeth Cymru, yn ôl ACau.

Mae pwyllgor cydraddoldeb y Cynulliad wedi dweud dylai gweinidogion wneud popeth yn eu gallu i daclo tlodi o fewn gwaith.

Mae'r pwyllgor yn galw am weld data ar y gwahaniaeth cyflog rhwng dynion a merched gan gwmnïau sy'n cyflogi mwy na 50 o staff, yn hytrach na 250 o staff fel yn y gorffennol, ac sydd hefyd yn cael eu cefnogi gan Lywodraeth Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddan nhw'n ymateb i adroddiad y pwyllgor yn fuan.

Mae'r pwyllgor wedi dweud eu bod yn cydnabod nad oedd gan Llywodraeth Cymru'r pŵer i newid y gyfraith ar gyflogaeth, ond gallan nhw fod wedi gwneud mwy i daclo cyflogau isel wrth benderfynu ar gyhoeddi cytundebau.

Taclo tlodi

Mae'r pwyllgor yn erfyn ar gwmnïau i dalu'r cyflog byw gwirfoddol o £8.75 yr awr yn hytrach na'r isafswm cyflog statudol, sy'n £7.83 yr awr.

Maen nhw'n galw hefyd am strategaeth ymroddedig i daclo tlodi ar ôl i weinidogion ddweud y byddai'n cael ei dilyn ym mhob adran.

Disgrifiad o’r llun,

AC Llafur, John Griffiths sy'n cadeirio pwyllgor cydraddoldeb

Dywedodd AC Llafur, John Griffiths, sy'n cadeirio pwyllgor cydraddoldeb, ei fod yn "annerbyniol" bod newidiadau yn natur gwaith yn arwain at "gynnydd o ran tlodi mewn gwaith".

"Gan fod nifer o ffactorau allai gynorthwyo'r broblem y tu allan i reolaeth Llywodraeth Cymru, rydym yn galw arnyn nhw i ddefnyddio eu pwerau yn greadigol, i sicrhau fod pobl sy'n byw yng Nghymru gyda mynediad at waith o safon sy'n talu'n dda," meddai.

'Cyflogaeth foesol'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn gweithio'n galed i daclo'r broblem ac i gyrraedd ein huchelgeisiau i wneud Cymru yn wlad deg i weithio ynddi.

"Wrth symud ymlaen, rydym yn sefydlu comisiwn gwaith teg, fydd yn adrodd yn y gwanwyn 2019. Rydym hefyd wedi defnyddio ein pwerau i atal y defnydd o gytundebau dim oriau yn y sector gofal yn y cartref.

"Rydym wedi cyflwyno cod ymarfer i sefydlu arferion cyflogaeth foesol mewn cadwyni cyflenwi a chanllawiau a gyhoeddwyd i gyfyngu ar ddefnyddio cytundebau dim oriau mewn gwasanaethau cyhoeddus.

"Yn ystod yr wythnos fe wnaethom lansio ein cytundeb economaidd newydd sydd wedi'i anelu at annog busnesau i ymddwyn yn gyfrifol, gan gynnwys gwaith teg."