Llai o ddisgyblion yn sefyll arholiadau TGAU yn gynnar
- Cyhoeddwyd
Mae cwymp mawr wedi bod yn nifer y disgyblion sydd yn sefyll arholiadau TGAU flwyddyn yn gynnar.
Daw hyn ar ôl i Lywodraeth Cymru benderfynu peidio annog pobl ifanc i wneud eu harholiadau yn gynnar ar ôl i adroddiad ddweud y gallai fod yn peryglu addysg rhai disgyblion.
O'r flwyddyn 2019 dim ond y radd gyntaf mae disgyblion yn llwyddo i'w chael fydd yn cyfri tuag at fesurau perfformiad yr ysgol.
Roedd gostyngiad o 78.1% yn nifer y disgyblion a wnaeth y ceisiadau ym mlwyddyn 10 - o 61,280 yn 2017 i 13,430 yr haf yma.
Yn gyffredinol roedd y nifer wnaeth sefyll arholiadau TGAU lawr 13% o 334,095 yn 2017 i 290,640 yn 2018, ond roedd cynnydd yn nifer y ceisiadau gan flynyddoedd 11 a 12.
Sawl ffactor
Yn ogystal roedd llai wedi gwneud lefelau A a'r cymwyster Uwch Gyfrannol (AS). Mae hyn yn golygu fod y gostyniad blynyddol mewn niferoedd ers 2015 yn parhau.
Er hynny fe welwyd cynnydd yn achos rhai pynciau lefel A gan gynnwys Celf a Dylunio, Bioleg, Dylunio a Thechnoleg a Chymraeg Iaith Gyntaf.
Yn ôl y corff sy'n rheoleiddio arholiadau, Cymwysterau Cymru, mae'n bosib bod sawl ffactor yn achosi'r cwymp yn niferoedd gan gynnwys:
nifer y cymwysterau y mae disgyblion unigol yn penderfynu eu gwneud ar gyfartaledd;
y math o gymwysterau a hyfforddiant y mae myfyrwyr dros 16 oed yn eu cymryd;
penderfyniadau ysgolion a cholegau ynglŷn â phryd y dylai disgyblion sefyll arholiadau TGAU; a
maint y boblogaeth.
Fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru newidiadau i'r ffordd yr oedd arholiadau TGAU'n effeithio ar berfformiadau ysgolion ar ôl i adroddiad Cymwysterau Cymru'r llynedd ddweud bod "risg sylweddol i ddysgwyr" trwy sefyll arholiadau yn gynnar.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Awst 2017
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2017