Llai o ddisgyblion yn sefyll arholiadau TGAU mis Tachwedd

  • Cyhoeddwyd
arholiadau

Mae miloedd o fyfyrwyr ar draws Cymru wedi cael eu canlyniadau Mathemateg, Saesneg Iaith, a Chymraeg Iaith ar ôl sefyll arholiadau ym mis Tachwedd.

Cafwyd bron i 54,845 o ymgeiswyr ar gyfer yr arholiadau TGAU ym mis Tachwedd 2017 - sydd 4.5% yn llai nag ym mis Tachwedd 2016.

Llwyddodd 48.5% i ennill graddau A*-C mewn Mathemateg Rhifedd, a 45.9% mewn Mathemateg TGAU.

Cafodd y ddau gymhwyster Mathemateg ddiwygiedig eu hasesu am y tro cyntaf ym mis Tachwedd 2016.

Roedd y gyfradd gyffredinol A*-G yn well ar gyfer y ddau gymhwyster mathemateg eleni, ond roedd y rheiny gafodd y canlyniadau uchaf yn y modiwl Rhifedd wedi gostwng - o 12.5% ​​ar gyfer graddau A* ac A ym mis Tachwedd 2016, i 11.1% yn 2017.

Ond dywedodd Cymwysterau Cymru ei bod hi'n anodd gwneud cymariaethau ystyrlon oherwydd gostyngiad sylweddol o 32.4% mewn cofnodion ar gyfer yr arholiad, a'r ffaith bod y canlyniadau mathemateg yn cynnwys disgyblion yn ail-sefyll eleni.

Fe enillodd 47.8% o'r disgyblion raddau A*-C mewn Saesneg, ac fe sicrhaodd 52% o'r disgyblion A*-C yn yr arholiad Cymraeg.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams y bydd rheolau newydd yn cael eu cyflwyno i rwystro disgyblion sy'n sefyll arholiadau yn fuan, ar ôl i adroddiad ddweud bod "ymgeisio'n gynnar" yn "peri risg sylweddol" i ddisgyblion.