'Pwynt i'w brofi' gan dîm pêl-droed Cymru, medd Davies

  • Cyhoeddwyd
Ben DaviesFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ben Davies wedi chwarae 38 o weithiau dros Gymru ers ei gap cyntaf yn 2012

Mae Ben Davies wedi dweud fod gan dîm pêl-droed Cymru "bwynt i'w brofi" cyn eu gornest yn erbyn Mecsico ddydd Mawrth.

Bydd y gwrthwynebwyr yn defnyddio'r ornest fel rhan o'u paratoadau ar gyfer Cwpan y Byd, cystadleuaeth dyw Cymru heb ei chyrraedd ers 60 mlynedd.

"Maen nhw'n edrych ymlaen ar Gwpan y Byd a does gennym ni ddim hynny o'n blaenau ni," meddai amddiffynnwr Spurs.

"Y bwriad yw cymryd y gemau cyfeillgar yma o ddifrif a sicrhau bod gennym ni bwynt i'w brofi, ein bod ni'n teimlo y dylen ni fod yno."

'Tymor gorau fy ngyrfa'

Yr ornest yng Nghaliffornia fydd trydedd gêm Ryan Giggs wrth y llyw, wedi i'r tîm drechu China a cholli i Uruguay yng Nghwpan China fis Mawrth.

Ond mae chwaraewyr fel Gareth Bale, Ben Woodburn, James Chester a Neil Taylor yn absennol oherwydd gemau gyda'u clwb, gydag eraill megis Joe Allen wedi anafu.

Mae'n golygu bod Giggs wedi dewis carfan cymharol ddibrofiad, gyda chwaraewyr fel Hal Robson-Kanu hefyd wedi'u gadael allan o'r 23 terfynol.

Eleni mae Davies, 25, wedi sefydlu'i hun fel cefnwr chwith dewis cyntaf ei glwb, ac mae'n teimlo ei fod wedi cael tymor gorau ei yrfa hyd yn hyn.

"Hoffwn i feddwl hynny," meddai cyn-chwaraewr Abertawe, sydd bellach wedi ennill 38 cap dros ei wlad.

"Dwi wedi chwarae mewn gemau mawr, chwarae yng Nghynghrair y Pencampwyr, rownd gynderfynol Cwpan yr FA ac fe wnaethon ni'n dda yn yr Uwch Gynghrair eto.

"Fe wnaeth gorffen yn drydydd gymryd ymdrech dda gyda'r gystadleuaeth oedd gennym ni, a fi'n falch mod i wedi chwarae rhan ynddo."