Rebecca Morgan o Bencoed wedi ennill Medal y Dysgwyr

  • Cyhoeddwyd
RebeccaFfynhonnell y llun, S4C

Mae Rebecca Morgan, 24 oed ac o Bencoed ger Pen-y-bont ar Ogwr, wedi ennill Medal y Dysgwyr Eisteddfod yr Urdd, Brycheiniog a Maesyfed.

Dywedodd Ms Morgan, sy'n athrawes yn Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf yng Nghaerdydd, ei bod wedi ei hysbrydoli i ddysgu'r iaith tra yn y chweched dosbarth a chlywed athrawon yn siarad Cymraeg.

Roedd yna bedwar yn cystadlu am y fedal eleni, y tri arall oedd Alys Williams, 18 oed o Gaerdydd, Jessica Harvey, 18 o Lanbrynmair a Jonas Rajan, 16 oed o Bort Talbot.

Nod y gystadleuaeth yw gwobrwyo rhywun sydd wedi ymrwymo i ddysgu Cymraeg, gyda'r fedal yn cael ei rhoi i unigolyn sy'n dangos sut y maent yn defnyddio'r iaith yn ddyddiol yn yr ysgol neu'r gweithle, a hefyd yn gymdeithasol.

Derbyniodd yr enillydd radd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg o Brifysgol Abertawe.

Ar ôl cael ei hanrhydeddu, dywedodd Ms Morgan: "Dwi'n dysgu disgyblion ail iaith mewn ysgol uwchradd ar hyn o bryd a fi eisiau pasio 'mlaen fy nghariad tuag at yr iaith.

"Dwi yn dweud wrth ddisgyblion fy mod i yn gallu ei wneud e, a dwi'n ail iaith, yna mae pawb yn gallu ei wneud e.

"Dwi'n dysgu mewn ysgol lle mae nifer o'r plant yn dod o wledydd eraill a lle weithiau Saesneg yw'r ail neu drydedd iaith, a thrio dangos iddynt y gwerth o ddysgu Cymraeg."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ystod y dydd mae'r beirniad wedi bod yn dilyn y pedwar o amgylch y maes

Mewn cyfweliad gyda Cymru Fyw cyn iddi glywed am ei llwyddiant dywedodd: "Dwi'n cofio bod yn y chweched dosbarth mewn ysgol uwchradd Saesneg a just y ffordd roedd yr athrawon yn siarad Cymraeg gyda'i gilydd o ni yn meddwl dwi moyn siarad â rhywun yn Gymraeg.

"Mae'n unigryw i Gymru ond dyle ni siarad Cymraeg achos 'dy ni'n dod o Gymru a dyle mwy o bobl siarad Cymraeg," meddai.

"Mae pobl mor falch i fod yn Gymro neu Gymraes a mynd i rygbi a chanu'r anthem, ond dy' nhw ddim yn gallu siarad Cymraeg, ond i fi dyw hynny ddim yn iawn.

"Dros y blynyddoedd ti'n gorfod ymarfer, ymarfer ac ymarfer neu unrhyw beth ti'n gallu fel darllen, gwylio teledu a siarad just i godi hyder… hyder yw e'n fi'n credu."

Rhoddir Medal y Dysgwyr gan Barciau Cenedlaethol Cymru.