Heddlu Dyfed-Powys i ddysgu gwersi wedi rêf ym Brechfa
- Cyhoeddwyd
Bydd Comisiynydd Heddlu Dyfed-Powys yn ymweld â safle rêf anghyfreithlon yn Sir Gaerfyrddin o fewn y dyddiau nesaf a thrafod camau posib i atal digwyddiadau tebyg yn y dyfodol gyda thrigolion lleol.
Mae'r llu wedi cael beirniadaeth am fethu ag atal y digwyddiad ym Mrechfa dros benwythnos gŵyl y banc, ac am fod yn rhy araf i geisio dod â'r digwyddiad i ben.
Dywedodd Dafydd Llywelyn fod cudd wybodaeth wedi awgrymu bod bwriad i gynnal y rêf yn Lloegr, a bod manylion y lleoliad wedi dod i'r amlwg ar y funud olaf.
Ychwanegodd mai diogelwch y cyhoedd a phlismyn oedd y flaenoriaeth wedi hynny gan fod dim digon o adnoddau i orfodi hyd at 1,500 o bobl i adael y safle.
"Mae'n rhaid meddwl am beth sy'n bosib i'w gyflawni" meddai Mr Llywelyn. "Oedd 'na asesiad dydd Sul... dyle'r heddlu fynd mewn i'r safle.
'Anodd gyda'r adnodde' posib'
"Bydden ni'n sôn am gannoedd o swyddogion, gan ystyried nifer yr unigolion yn yr ardal [a] bod nifer yr unigolion falle wedi bod yn yfed ac ati ac o dan ddylanwad alcohol - bydde wedi bod yn anodd iawn gyda'r adnodde posib i ga'l yr unigolion o'r ardal.
"Ni hefyd yn ymwybodol bod nhw'n grŵp o bobol falle sydd ddim yn mynd i fod yn ddigon parod i'r heddlu ofyn iddyn nhw adael. Beth sy'n ymarferol yw'r pwynt wedyn... diogelwch y cyhoedd, diogelwch yr heddweision."
Dywedodd Mr Llywelyn bod yr ardal fel arfer yn denu miloedd o geir ychwanegol ar benwythnosau gŵyl banc, ond bod swyddog traffig lleol wedi gweld mwy o geir na'r disgwyl nos Sadwrn a synhwyro bod rhywbeth ar droed.
Ar ôl penderfynu peidio gorfodi pobl i adael y safle, aeth yr heddlu ati i atal rhagor o bobl a cherbydau rhag ymuno â'r rêf.
Fe gwynodd trigolion lleol am lefelau sŵn a llanast.
Dywedodd Mr Llywelyn ei fod ar ddeall bod llawer o'r sbwriel wedi'i glirio, a'i fod am gwrdd â thrigolion ym Mrechfa i "ddechre deialog" a gweld pa wersi sydd yna i'w ddysgu i atal digwyddiadau tebyg.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mai 2018