Y Troad Allan: Effaith etholiad 1868 yng Ngheredigion
- Cyhoeddwyd
Cafodd gwasanaeth arbennig ei gynnal ddydd Sul i nodi canrif a hanner ers etholiad cyffredinol hanesyddol 1868, a'i ddylanwad pellgyrhaeddol ar gymuned yn ne Ceredigion.
Yn 1876, cafodd cynulleidfa capel Undodaidd Llwynrhydowen a'u gweinidog William Thomas (Gwilym Marles) eu troi allan o'u capel gan eu tirfeddiannwr.
Roedd hynny'n ganlyniad i raddau helaeth i ymgyrchu rhyddfrydol Gwilym Marles, a gododd wrychyn John Lloyd o Alltyrodyn.
I ddial am hynny, pan ddaeth les y capel i ben, gafodd y gynulleidfa eu cloi allan o'r capel gan y tirfeddiannwr, a bu'n rhaid i'r addolwyr chwilio am gartref newydd.
Cafodd y gwasanaeth yng nghapel Undodaidd Pen-rhiw yn Sain Ffagan, dolen allanol ei drefnu er mwyn nodi trobwynt pwysig etholiad 1868 yn y cyd-destun hanesyddol hwnnw.
'Newid hanes'
"Fe newidiodd etholiad cyffredinol 1868 hanes Cymru," medd un o'r trefnwyr, y newyddiadurwr a'r darlledwr Dylan Iorwerth.
"Cafodd ddylanwad mawr ar wleidyddiaeth gwledydd Prydain, ac ar unigolion a chymdeithas yn ne Ceredigion.
"Mae rhai yn dweud mai dyma'r etholiad ddechreuodd ar y cyfnod gwleidyddol modern.
"Ar y pryd, doedd yna ddim pleidlais gudd, ac am y tro cynta', fe wnaeth rhyddfrydwyr cyffredin guro'r landlordiaid Torïaidd mewn pleidlais agored.
"O ganlyniad, buodd 'na erlid ar denantiaid ac ar gynulleidfa capel Llwynrhydowen."
Roedd y yng Nghapel Pen-rhiw yn "gyfuniad o wasanaeth traddodiadol a chyflwyniad", lle roedd gofyn i'r gynulleidfa "ddychmygu eu bod nhw nôl yn Llwynrhydowen" yn ystod y cyfnod dan sylw.
"Collodd 43 o deuluoedd eu ffermydd yng Ngheredigion yn y cyfnod hwn, a 26 yn Sir Gar," meddai Mr Iorwerth.
Cyflwyno pleidlais gudd
Ychwanegodd fod digwyddiadau fel y Troad Allan wedi dylanwadu ar yr hyn ddigwyddodd nesaf: "Y canlyniad ar lefel Brydeinig oedd bod ymchwiliad wedi bod yn y senedd, ac mi wnaeth y digwyddiadau arwain at gyflwyno'r bleidlais gudd.
"Mae'n ofnadwy o bwysig i atgoffa pobl o'r straeon 'ma, a sut mae pobl wledig yn Nyffryn Cletwr a Dyffryn Teifi wedi cyfrannu at newid pellgyrhaeddol ym myd gwleidyddol Prydain."
Gobaith y trefnwyr yw cynnal rhagor o ddigwyddiadau yn ddiweddarach yn y flwyddyn, yn agosach at adeg etholiad 1868 tuag at ddiwedd y flwyddyn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2015
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2015