Y Cynulliad i roi'r gorau i ddefnyddio plastig tafladwy
- Cyhoeddwyd
Mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi cyhoeddi y bydd yn rhoi'r gorau i ddefnyddio plastig tafladwy o fewn ei hadeiladau "lle bynnag y bo modd".
Ar Ddiwrnod Amgylchedd y Byd ddydd Mawrth, amlinellodd y sefydliad eu bod yn gobeithio disodli nwyddau plastig am rai amgylcheddol gyfeillgar erbyn mis Medi 2018.
Bydd cwpanau dŵr plastig yn cael eu disodli gan gwpanau bio-blastig neu bapur compostadwy, a bydd llestri a photiau salad tafladwy hefyd yn cael eu disodli gan blastig compostadwy sy'n dadelfennu dros amser.
Mae cynwysyddion bwydydd tecawê wedi'u disodli eisoes gan rai sy'n cael eu gwneud o gerdyn.
Dywedodd Caroline Jones AC, Comisiynydd y Cynulliad sy'n gyfrifol am ddiogelwch ac adnoddau: "Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi bod ar flaen y gad o ran arferion amgylcheddol a chynaliadwy ers ei sefydlu."
"Fel yr ydym wedi gweld ar raglenni teledu pwerus fel Blue Planet, gall plastig gael effaith ddinistriol ar ein hamgylchedd.
"Gyda rhwng 80% a 90% o'n gwastraff yn cael ei ailgylchu, a heb anfon unrhyw wastraff i safleoedd tirlenwi, mae Comisiwn y Cynulliad wedi bod yn gweithio tuag at roi'r gorau i ddefnyddio plastig yn raddol ar draws ystâd y Cynulliad."
Ychwanegodd ei bod yn gobeithio y bydd ei hymdrechion "yn gosod meincnod i sefydliadau yng Nghymru a ledled y DU ei ddilyn".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mai 2018