Cynllun i gael dŵr yfed am ddim ar hyd Llwybr yr Arfordir
- Cyhoeddwyd
Bydd mannau ail-lenwi poteli dŵr yn cael eu darparu am ddim ar hyd Llwybr yr Arfordir yn y flwyddyn nesaf.
Mae'n cael ei ddisgrifio fel "cam cyntaf uchelgais Llywodraeth Cymru i wneud Cymru y 'Wlad Ail-lenwi' gyntaf yn y byd a helpu i leihau'r defnydd o boteli plastig untro".
Bydd trefi, pentrefi a busnesau bwyd a diod yn cael eu hannog i gytuno i ddarparu dŵr yfed am ddim a dod yn fannau 'ail-lenwi'.
Bydd pawb sy'n ymuno â'r cynllun yn gallu hysbysebu eu bod yn rhan ohono, ac fe fydd ap yn rhoi rhestr i'r cyhoedd o'r mannau lle gallan nhw gael dŵr yfed am ddim.
Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Hannah Blythyn fod y cynllun yn manteisio ar adnoddau sydd eisoes yn bod.
"Mae pobl wedi cyfeirio at ffynhonnau dŵr - mae hynny ychydig yn fwy cymhleth oherwydd mae llawer o'r rhai hen efallai â phibellau plwm... er bod rhai cymunedau wedi gwneud hynny.
"Mae angen gweld sut allwn ni weithio gydag awdurdodau lleol a mudiadau eraill i symud y peth yn ei flaen."
Dywedodd hefyd fod gwersi i'w dysgu o adnoddau darparu dŵr dros dro yn ystod digwyddiadau fel Ras Cefnforoedd Volvo a Gŵyl y Gelli.
"Mae llawer o gyfleoedd a llawer o opsiynau i wneud hynny," meddai.
Bydd Ms Blythyn yn cyhoeddi manylion y cynllun ddydd Mawrth mewn araith yn Uwchgynhadledd Moroedd Caerdydd - digwyddiad sy'n rhan o Ras Cefnforoedd Volvo 2017-18.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd5 Mai 2017
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2014