Cynllun newydd i 'leihau dibyniaeth ar ysbytai'
- Cyhoeddwyd
Dim ond pan mae'n "hanfodol" y dylai cleifion ddisgwyl mynd i'r ysbyty, a dylai llawer mwy o ofal a thriniaethau gael eu cynnig yn y gymuned neu gartref.
Dyna un o brif amcanion cynllun Iechyd a Gofal Cymdeithasol newydd Llywodraeth Cymru, sy'n rhybuddio na fydd modd ateb anghenion y boblogaeth yn y dyfodol, oni bai fod newidiadau pellgyrhaeddol yn digwydd yn gyflym.
Fel rhan o'r cynllun hirdymor bydd rhaglen drawsnewid newydd yn cael ei sefydlu gyda chronfa gwerth £100m ar gael i ddatblygu modelau arloesol newydd lleol.
Byddai'r rhain yn cyfuno gofal iechyd a gofal cymdeithasol.
Y gobaith yn y pendraw yw y bydd modd ehangu'r syniadau gorau ar draws Cymru'n gyflym.
Mae gweinidogion yn disgwyl gweld cynnydd o fewn tair blynedd a newid sylweddol o fewn degawd.
Beth mae'r newidiadau'n ei olygu i chi?
Bydd nyrs yn gallu rhoi cyffuriau gwrthfiotig gartref, cam fyddai yn y gorffennol wedi golygu aros dros nos yn yr ysbyty;
Efallai y byddwch yn gweld ymgynghorydd trwy gyfwng linc fideo o'ch cartref neu feddygfa yn hytrach na theithio i glinig;
Gallai rhagor o sganiau gael eu cynnal yn eich meddygfa leol;
Os ydych chi'n oedrannus ac angen mynd i'r ysbyty, bydd modd i chi ddychwelyd adref yn gynt gan y bydd y gofal sy'n dilyn wedi'i drefnu ymlaen llaw.
Mae rhai o'r rhain yn digwydd mewn ardaloedd yn barod ond nid ym mhobman ac nid i'r raddfa sydd ei angen.
Ond bydd disgwyl i bobl gymryd gwell gofal o'u hunain, drwy wneud ymarfer corff a chadw golwg ar beth maen nhw'n ei fwyta a'i yfed.
Sicrhau llai o ddibyniaeth ar ysbytai yw'r syniad canolog.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething fod y cynllun yn edrych ar "sut y gallwn addasu i ymateb i heriau'r dyfodol".
Bydd paneli rhanbarthol o swyddogion byrddau iechyd, cynghorau a chynrychiolwyr gwirfoddol - gafodd eu sefydlu pedair blynedd yn ôl - yn gyrru'r gwaith.
Ar yr un pryd, bwriad Llywodraeth Cymru yw cryfhau gallu'r gwasanaeth iechyd i wneud penderfyniadau cyflym ar faterion cenedlaethol.
Er mwyn gwneud hynny bydd strwythur rheoli newydd yn cael ei greu i eistedd uwchben y saith bwrdd iechyd presennol.
Bydd ganddo'r grym i lunio patrwm gwasanaethau arbenigol a gwasanaethau ysbytai yn y dyfodol.
Yn ogystal bydd disgwyl i'r cyrff iechyd a gofal hefyd gynnal trafodaeth "barhaus" â'r cyhoedd ar ddyfodol gwasanaethau, yn hytrach na gwahodd pobl i ddweud eu dweud o bryd i'w gilydd.
Pam cyflwyno hyn nawr?
Mae'r cloc yn tician. Dyma ymateb Llywodraeth Cymru i adolygiad gan arbenigwyr annibynnol wnaeth alw am "chwyldro" i'r drefn bresennol.
Mae hefyd yn adeiladu ar adroddiad blaenorol gan sefydliad ymchwil yr OECD wnaeth ddweud fod angen rhannu arbenigedd ar draws y system iechyd yn well.
Mae rhybuddion hefyd y gallai gwasanaethau iechyd ddirywio ymhellach yn ystod y pum mlynedd nesa' oni bai bod newidiadau yn cael eu cyflwyno.
Allwn ni leihau nifer y bobl sy'n cyrraedd ein hysbytai?
Mae'r system bresennol wedi'i seilio ar edrych ar ôl pobl tu fewn i adeiladau ysbytai.
Ar hyn o bryd ry'n ni'n gweld pobl oedrannus yn cael eu cludo i unedau brys neu'n aros am oriau yn yr ysbyty pan, mewn byd delfrydol, bydden nhw'n cael yr un gofal gartref - sy'n fwy cyfleus ac yn llai costus.
Bydd hyn yn golygu newid diwylliannol sylweddol ynghyd â chyfuniad cywir o weithlu a gwasanaethau.
Beth am y gost?
Er mwyn gallu cyflwyno'r weledigaeth hon mae'r Ysgrifennydd Iechyd yn cydnabod efallai y bydd rhaid newid y ffordd mae'r gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu hariannu.
Gallai olygu trafodaeth genedlaethol ar sut allai'r llywodraeth ddefnyddio eu pwerau newydd ym maes trethi er mwyn cynyddu'r gronfa arian.
Mae hanner cyllideb Cymru'n cael ei wario ar iechyd a gofal yn barod. Felly os yw gweinidogion yn dewis gwario rhagor o arian heb dderbyn hwb ariannol gan San Steffan fe allai'r gyllideb iechyd wasgu gwasanaethau cyhoeddus eraill.
Wrth gyhoeddi'r strategaeth newydd dywedodd Mr Gething: "Mae'r cynllun heddiw yn disgrifio ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol - mae'n edrych ar sut y gallwn addasu i ymateb i heriau'r dyfodol a gweddnewid ein ffordd o ddarparu gwasanaethau gofal iechyd a gofal cymdeithasol.
"Byddwn ni'n gweithredu'r newidiadau hyn, ac ar yr un pryd byddwn ni'n cadw at werthoedd craidd y GIG, gan ddarparu gofal iechyd am ddim i bawb.
"Dyma'r tro cyntaf i Lywodraeth Cymru osod cynllun ar y cyd ar gyfer gofal iechyd a gofal cymdeithasol.
"Y nod yw symud oddi wrth ofal iechyd sy'n canolbwyntio ar drin pobl pan fyddant yn mynd yn sâl, at wasanaethau sy'n hybu iechyd ac yn annog pobl i ddilyn ffordd o fyw iach, ac felly byw'n annibynnol cyhyd â phosibl."
Gweddnewid mewn degawd
Dywedodd Prif Weithredwr y GIG yng Nghymru, Andrew Goodall: "Mae 'na alw am newid nawr, nid yn y dyfodol.
"Mae'n rhaid i ni droi ein golygon at drawsnewid a chyflwyno dyfeisiadau newydd gan wybod fod gennym ni'r sylfaeni i adeiladu ar ein system bresennol.
"Drwy beidio ag ymateb a newid byddwn ni ddim yn cwrdd ag anghenion pobl Cymru."
Yn ôl Llywodraeth Cymru dyma'r tro cyntaf i strategaeth gofal cymdeithas ar y cyd gael ei lunio yn y DU.
Mae'r rhai sydd y tu ôl i'r cynllun am weld cynnydd o fewn tair blynedd gyda'r syniadau gorau'n cael eu cyflwyno a'u rhannu ar draws y wlad.
Wrth baratoi i ddathlu pen-blwydd y gwasanaeth iechyd yn 80 maen nhw'n gobeithio gweld gwasanaeth gwbl wahanol o fewn 10 mlynedd.
Angen targedau gwirioneddol
Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Angela Burns AC eu bod yn cefnogi amcanion y cynllun a'r bwriad "dymunol ac angenrheidiol" i lunio gwasanaethau iechyd a gofal ar y cyd.
Ond fe rybuddiodd bod angen "cynlluniau clir i'w gwireddu" a bod y ddogfen yn cynnwys "ychydig iawn o dargedau gwirioneddol neu ymrwymiadau ar gyfer Llywodraeth Cymru, byrddau iechyd, byrddau partneriaeth rhanbarthol ac awdurdodau lleol".
Ac fe ychwanegodd fod pryderon dros allu Mr Gething i wireddu'r cynllun "yn enwedig o ystyried ei anallu i drawsnewid sefyllfa Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn y gogledd".
Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth nad yw'r cynllun yn "cynnig ateb".
"Mae trin mwy o bobl yn nes at gartref a thu allan i ysbytai wedi bod yn nodedig o bolisi Llafur ers dros ddegawd ac eto maent wedi methu â throi'r dyhead hwn i unrhyw beth pellach," meddai.
"Mewn gwirionedd, mae'r unig newidiadau rydym wedi ei gweld wedi cynnwys y gwrthwyneb sef gwasanaethau yn symud i ffwrdd oddi wrth cymunedau lleol oherwydd prinder staff.
"Roedd angen i'r adroddiad hon gan y llywodraeth ddarparu cynllun clir ar gyfer ffordd ymlaen - set cynigion cadarn - ond rwy'n ofni mai nid dyna ni sydd gennym yma."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2016