Afonydd Caerdydd yn 'marw' ac yn 'fôr o blastig'
- Cyhoeddwyd
Mae pryder bod llygredd yn dinistrio afonydd Caerdydd, gyda gwirfoddolwyr yn dweud eu bod o dan "fôr o blastig".
Daw wrth i Gyngor Caerdydd gynyddu'r ymdrech i lanhau'r afonydd wedi pryder eu bod yn "marw".
Mae'r cyngor hefyd yn ymchwilio i'r posibilrwydd o gael archfarchnad Tesco i gyfrannu hyd at £5,000 y mis tuag at yr ymgyrch lanhau.
Mae gwirfoddolwyr wedi dechrau mynd ati i lanhau Afon Taf eu hunain ar ôl cael eu hysbrydoli gan neges Ras Fôr Volvo am leihau ein defnydd o blastig.
Effaith ar bysgod
Mae afonydd Taf, Elái a Rhymni yn llifo i Fae Caerdydd, gyda sbwriel yn casglu ble mae'r morglawdd yn ei atal rhag mynd i'r môr.
Y llynedd cafodd rhan fawr o Afon Elái ei osod yn y dosbarth gwaethaf - "drwg" - o ran safon dŵr dan fframwaith yr Undeb Ewropeaidd.
Cafodd pum rhan o Afon Taf ac un ardal o Afon Rhymni hefyd eu rhoi yn y dosbarth "gwael".
Dywedodd adroddiad gan Gyngor Caerdydd bod nifer y pysgod yn yr afonydd yn gostwng, ac mai problemau gyda charthffosiaeth sydd ar fai.
Ym mis Ebrill fe wnaeth Grŵp Afonydd Caerdydd gasglu dros 150 o fagiau o sbwriel o Afon Rhymni mewn llai na dwy awr.
Mae Awdurdod Harbwr Caerdydd hefyd yn casglu 430 tunnell o sbwriel a darnau naturiol fel cerrig, mwd a gwair o'r bae pob blwyddyn.
Tesco i gyfrannu?
Mae Cyngor Caerdydd yn ystyried gofyn i Tesco gyfrannu rhwng £1,000 a £5,000 y mis i elusen Cadwch Gymru'n Daclus er mwyn helpu ariannu'r ymdrech i lanhau'r afonydd.
Byddai'r cyllid yn dod o'r arian sy'n cael ei gasglu o godi tâl o 5c am fagiau plastig.
Dywedodd gwirfoddolwyr y byddai'r arian yn cael ei ddefnyddio i geisio canfod ffynhonnell y broblem.
Mae grŵp o wirfoddolwyr wedi bod yn glanhau Afon Taf ar gychod bychan, a dywedodd un ohonynt fod y plastig sydd yno yn "warthus".
Fe wnaeth y criw gasglu tua 20 bag o sbwriel o'r afon mewn awr a hanner ar ôl cael eu hysbrydoli gan Ras Fôr Volvo wrth i'r ras stopio yng Nghaerdydd am yr wythnos.
Swm y sbwriel yn 'anhygoel'
"Pan dy'ch chi'n casglu cymaint â hyn o sbwriel, chi'n dechrau meddwl pa fath o ddŵr chi ynddo," meddai Andy Finley, un o'r gwirfoddolwyr.
"Roedd swm y sbwriel yn anhygoel - doedden ni ddim yn gallu credu'r peth.
"Roedd un ardal yn fôr o blastig. Doeddech chi prin yn gallu gweld y dŵr am tua 100 metr. Roedd e'n ofnadwy."
Dywedodd Dai Walters o Cyfoeth Naturiol Cymru, sy'n rheoli'r afonydd: "Mae gennym ni oll gyfrifoldeb i gadw ein hafonydd yn lan.
"Wrth gael gwared ar ein sbwriel yn gywir a chadw golwg ar blymio ein hadeiladau, gallwn sicrhau bod ein hafonydd yn iach ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Medi 2017
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2018