GMB yn ymddiheuro am alwad i yrru dŵr o Gymru i Loegr
- Cyhoeddwyd
Mae swyddog undeb wedi ymddiheuro yn dilyn gwrthwynebiad i alwad i drosglwyddo dŵr o ganolbarth Cymru i dde-ddwyrain Lloegr.
Roedd undeb y GMB wedi awgrymu cyflenwi dŵr o gronfa Craig Goch ym mynyddoedd Cwm Elan yn sgil twf ym mhoblogaeth Llundain a'r ardal o'i chwmpas.
Dywedodd Plaid Cymru mai Llywodraeth Cymru ddylai reoli dŵr y wlad a bod angen gwrthwynebu'r cynllun yn "ffyrnig".
Ychwanegodd Llywodraeth Cymru y byddai'n rhaid ymgynghori gyda gweinidogion a Chyfoeth Naturiol Cymru cyn unrhyw gynllun o'r fath.
Mae cyflenwi dŵr yn bwnc dadleuol yng Nghymru ers i bentref Capel Celyn gael ei foddi er mwyn creu cronfa ddŵr i gyflenwi Lerpwl yn y 1960au.
Yn sgil yr ymateb, mae'r swyddog wedi ymddiheuro, gan ddweud nad oedd wedi bwriadu pechu unrhyw un.
'Hanes hir a phoenus'
Cafodd y cynnig ei gymeradwyo gan Gyngres y GMB, oedd yn dweud bod "patrymau tywydd tymor hir Llundain a rhannau o dde-ddwyrain a dwyrain Lloegr" yn golygu y bydd yr ardaloedd yn cael "cyfnodau o ychydig iawn o law a fydd yn arwain at gronfeydd yn brin o ddŵr".
Roedd cynnig yr undeb yn tynnu sylw at gronfa Craig Goch, gafodd ei hadeiladu gan ddinas Birmingham ar droad yr 20fed ganrif i gyflenwi dŵr ar gyfer ei diwydiannau.
Dywedodd swyddog yr undeb, Mick Ainsley: "Mae angen i ni roi buddiannau'r genedl o flaen elw [cwmnïau] preifat."
Dywedodd AS Plaid Cymru Arfon, Hywel Williams nad Llywodraeth y DU nac undebau llafur oedd yn gyfrifol am "ddweud wrth bobl Cymru be ddylid ei wneud gyda'n dŵr".
"Os am ei gludo i Lundain a'r de-ddwyrain, fe ddylai fod am bris teg. Dylai'r GMB fod yn ymwybodol fod hanes hir a phoenus yng Nghymru o ran y mater yma," meddai.
"Maen nhw yn amlwg yn sathru ar bwnc nad ydyn nhw'n ei ddeall."
Ymddiheuriad
Dywedodd y GMB mewn datganiad eu bod yn "parchu'r safle yng Nghymru, gyda llywodraeth ddatganoledig a diwydiant dŵr nid-er-elw".
Yn siarad ar BBC Radio Wales, dywedodd Mr Ainsley "nad oeddwn wedi bwriadu pechu unrhyw un".
"Rydw i eisiau ymddiheuro os ydyn ni, ond nid dyna oedd ein bwriad," meddai.
"Y bwriad oedd dweud bod 'na broblem fawr - rydyn ni angen delio gyda'r peth."
Ychwanegodd: "Yn sicr alla'i ddim gwneud sylw am beth ddigwyddodd yn y gorffennol, oherwydd nid oedd yn rhywbeth oeddwn i'n gyfarwydd iawn ag o, felly o ran hynny mae Mr Williams yn gywir nad oedden ni'n gwybod beth oedden ni'n sathru arno."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2018