Galw am drosglwyddo dŵr Cymru i Lundain a dwyrain Lloegr

  • Cyhoeddwyd
Cronfa Craig GochFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe godwyd cronfa Craig Goch i gyflenwi dŵr ar gyfer dinas Birmingham

Mae undeb y GMB yn galw am drosglwyddo dŵr o ganolbarth Cymru i dde ddwyrain Lloegr yn sgil twf ym mhoblogaeth dinas Llundain a'r ardal o'i chwmpas.

Maen nhw eisiau i Thames Water gymryd dŵr o gronfa Craig Goch ym mynyddoedd Cwm Elan a'i gludo ar hyd camlesi Cotswold er mwyn paratoi rhag cyfnodau o sychder.

Dywedodd Plaid Cymru mai Llywodraeth Cymru ddylai reoli dŵr Cymru a bod angen gwrthwynebu'r cynllun yn "ffyrnig".

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud "y byddai angen i'r cwmni dŵr ymgynghori â Chyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru".

Fe gafodd cynnig ei gymeradwyo mewn cyfarfod diweddar o Gyngres y GMB yn nodi bod "patrymau tywydd tymor hir Llundain a rhannau o dde ddwyrain a dwyrain Lloegr" yn golygu y bydd yr ardaloedd yn cael "cyfnodau o ychydig iawn o law a fydd yn arwain at gronfeydd yn brin o ddŵr.

"Mae hyn yn degybol o ddigwydd bob rhyw 20 mlynedd."

"Mae'r gyngres hefyd yn cydnabod nad oes prinder dŵr ym Mhrydain ond mae yna ddiffyg capasiti i gael y dŵr o le mae digonedd ohono i ardaloedd lle fe allai fod yn brin o bryd i'w gilydd."

'Buddiannau'r genedl o flaen elw preifat'

Mae cynnig yr undeb yn tynnu sylw at gynllun i ehangu cronfa Craig Goch, a gafodd ei hadeiladu gan ddinas Birmingham ar droad y 20fed ganrif i gyflenwi dŵr ar gyfer ei diwydiannau.

Yn ôl y GMB mae angen manteisio ar waith sy'n digwydd ar hyn o bryd i adfer camlesi ardal y Cotswolds gan ei fod yn gyfle i gludo dŵr o ganolbarth Cymru i Afon Tafwys.

Dywedodd swyddog rhanbarthol gyda'r undeb, Mick Ainsley: "Mae pobl eisiau gwybod bod eu cyflenwad dŵr yn ddiogel ac maen nhw wedi cael digon ar esgusodion pam na fedrir symud dŵr o gwmpas y wlad i le mae'r angen. Mae'n bryd i wneud iddo ddigwydd.

"Mae angen i ni roi buddiannau'r genedl o flaen elw [cwmnïau] preifat."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Os mae yna unrhyw gynigion a allai effeithio ar Gymru, byddai'n rhaid i'r cwmni dŵr gysylltu gyda Chyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru.

"Bydden ni'n disgwyl sicrwydd bod unrhyw gynnig yn mynd i'r afael ag unrhyw ystyriaethau amgylcheddol neu effaith botensial ar gyflenwadau dŵr yng Nghymru."

Ffynhonnell y llun, Ty'r Cyffredin
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Hywel Williams nad lle Llywodraeth y DU nac undebau llafur yw penderfynu sut i ddefnyddio dŵr Cymru

Dywedodd AS Plaid Cymru Arfon, Hywel Williams: "Dydi hi yn bendant ddim i fyny i Lywodraeth y DU yn Llundain nac i undebau llafur unigol o ran hynny, ddweud wrth bobl Cymru be ddylid ei wneud gyda'n dŵr.

"Llywodraeth Cymru sy'n rheoli dŵr Cymru. Fe ddylai unrhyw ymgais i fargeinio un o'r adnoddau naturiol pwysicaf oddi arnom gael ei wrthwynebu'n ffyrnig.

"Os am ei gludo i Lundain a'r de ddwyrain, fe ddylai fod am bris teg. Dylai'r GMB fod yn ymwybodol fod hanes hir a phoenus yng Nghymru o ran y mater yma.

"Maen nhw yn amlwg yn sathru ar bwnc nad ydyn nhw'n ei ddeall."

Dadansoddiad ein gohebydd gwleidyddol Carl Roberts:

Yn ddamcaniaethol, pe byddai Thames Water neu unrhyw un arall eisiau derbyn dŵr o gronfa Craig Goch, fe fyddai'n rhaid iddyn nhw dalu Dwr Cymru amdano.

OND - ac mae'n ond mawr -- dyw'r sefyllfa ddim mor syml â hynny. Cyn y gallai hynny ddigwydd, fe fyddai'n rhaid i unrhyw gytundeb posib gynnwys y rheoleiddiwr, Ofwat, a bodloni llywodraethau Cymru a'r DU - sy'n rhannu'r pwerau i benderfynu dros faterion dwr yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dweud "os mae yna unrhyw gynigion a allai effeithio ar Gymru, byddai'n rhaid i'r cwmni dŵr gysylltu gyda Chyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru.

"Bydden ni'n disgwyl sicrwydd bod unrhyw gynnig yn mynd i'r afael ag unrhyw ystyriaethau amgylcheddol neu effaith botensial ar gyflenwadau dŵr yng Nghymru."

Dywed Dŵr Cymru eu bod "fel cwmni nid-am-elw... yn ymroddi i roi cyflenwad cyson, safon uchel i gwsmeriaid ac ein blaenoriaeth yw sicrhau ei bod yn gallu diwallu anghenion ein cwsmeriaid ein hunain heddiw ac yn y dyfodol.

"Ddylai unrhyw gynlluniau i drosglwyddo dŵr o Gymru i rannau eraill o'r DU ond gael eu hystyried os mae o fudd i gwsmeriaid yng Nghymru."

Rwy'n cael ar ddeall pe byddai gofynion pellach am ddŵr o Craig Goch yna fe fyddai'n rhaid i Dŵr Cymru fuddsoddi i gynyddu maint y gronfa.

Felly mae nifer o faterion sydd angen eu datrys - dyw hi ddim yn broses syml.