Leanne Wood am adael yn 2021 os ddim yn brif weinidog

  • Cyhoeddwyd
Leanne Wood
Disgrifiad o’r llun,

Leanne Wood yn siarad gydag Aled ap Dafydd

Mae Leanne Wood wedi cyhoeddi y bydd hi'n camu o'r neilltu fel arweinydd Plaid Cymru ar ôl etholiad 2021, os na fydd hi'n brif weinidog.

Dywedodd Ms Wood wrth y BBC y byddai hi'n croesawu her i'w harweinyddiaeth a bod "lleiafrif" o fewn y blaid eisiau mynd ar "drywydd gwahanol".

Mae rheolau Plaid Cymru yn golygu y gall yr arweinyddiaeth newid pob dwy flynedd.

Nid yw Ms Wood wedi wynebu her i'w harweinyddiaeth ers cael ei hethol yn 2012, ond mae'r BBC ar ddeall fod yna anfodlonrwydd ymysg rhai ACau Plaid am ei pherfformiad.

Hyderus

Yn ôl Ms Wood mae ACau Plaid Cymru wedi cynnal trafodaethau agored ac onest, ond doedd hi ddim yn fodlon ymhelaethu ar yr hyn gafodd ei ddweud.

Roedd ei mandad hi wedi dod gan "aelodau cyffredin", meddai, gan bwysleisio fod y mwyafrif o'r rheini eisiau gweld hi yn parhau fel arweinydd.

Dywedodd Ms Wood y byddai hi'n croesawu her i'w harweinyddiaeth "i raddau" gan y byddai hynny yn rhoi'r cyfle iddi hi "fynd allan a chynnal trafodaethau".

Ychwanegodd: "Os nad ydw i yn brif weinidog ar ôl yr etholiad yn 2021, yna byddaf yn cerdded i ffwrdd".

"Byddaf nawr yn ymdrechu i sicrhau fod yr etholiad nesaf yn un cryf i Blaid Cymru, ac ein bod ni'n sicrhau lle yn y Llywodraeth.

"Ond mi fyddai'n brif weinidog."

Fel rhan o'i hymgyrch i ddiweddaru ei harweinyddiaeth, mae hi wedi galw am arolygiad llawn o bolisi'r blaid tuag at ynni niwclear, gan ychwanegu nad oedd hi yn bersonol o blaid Wylfa Newydd ar Ynys Môn.