Steroidau i greu 'problem enfawr' i'r GIG yn y dyfodol
- Cyhoeddwyd
Bydd cyffuriau sy'n gwella perfformiad a steroidau yn creu "problem enfawr" i'r GIG yn y dyfodol, yn ôl pennaeth tîm arbenigol sy'n rhedeg yr unig glinig o'i fath yng Nghymru.
Mae'r cynnydd mawr yn nifer y bobl sy'n cymryd y cyffuriau hyn wedi arwain Gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau Gwent i agor clinig cyfnewid nodwyddau.
Mae pennaeth rhaglen camddefnyddio sylweddau Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud bod angen i bobl sy'n gweithio ym maes iechyd gael mwy o hyfforddiant ar y materion yma.
Dywedodd Mike Mallett bod defnyddwyr yn aml yn gwybod mwy am y cyffuriau a'r steroidau na meddygon a'r nyrsys.
'Problem anochel'
"Mae'r broblem enfawr trwy'r DU, ond yn enwedig yng nghymoedd de Cymru," meddai Mr Mallett, sydd wedi sicrhau blwyddyn o nawdd ar gyfer y clinig cyfnewid nodwyddau yng Nghasnewydd.
"Fy mhryder i yw, mewn 20 mlynedd neu lai, bydd meddygon yn gweld cynnydd yn nifer y bobl rhwng 40 a 50 oed sydd wedi bod yn defnyddio steroidau am ddegawdau.
"Bydd ganddyn nhw broblemau iau, thyroid ac arennau, neu gyflyrau ar y galon, ond fyddan nhw ddim yn mynd i weld eu meddyg nes eu bod yn gweld symptomau.
"Erbyn hynny, mae'r driniaeth yn mynd i fod yn llawer drytach ac yn llai effeithiol. Mae'n broblem sy'n anochel."
Mae Mr Mallett yn gobeithio casglu digon o ddata yn ystod y cynllun 12 mis fel y gall y gwasanaeth wneud cais am nawdd mwy parhaol gan y Gwasanaeth Iechyd.
Dywedodd Josie Smith o Iechyd Cyhoeddus Cymru bod y ffaith fod cyffuriau sy'n gwella perfformiad yn gweithio yn ei gwneud yn her argyhoeddi pobl am y peryglon o'u defnyddio.
"Mae'n rhaid i ni gydnabod, os yw unigolyn yn gweld canlyniadau o'u defnyddio maen nhw'n fwy tebygol o barhau i'w defnyddio," meddai.
"Pan mae unigolyn yn teimlo'n well, yn edrych yn well ac yn teimlo'n fwy hyderus, mae'n her mynd i'r afael â hynny."
'Gwybod mwy na'r meddyg'
Ychwanegodd bod defnyddwyr yn aml yn gyndyn i fynd at feddyg am gyngor.
"Mae pobl sy'n defnyddio steroidau yn aml yn gwybod mwy am yr hyn maen nhw'n ei gymryd na phobl sy'n gweithio ym maes iechyd," meddai Ms Smith.
"Mae pryder am stigma hefyd. Mae'n rhaid i ni sicrhau bod gennym ffynonellau gwybodaeth y mae pobl yn gallu ymddiried ynddynt, heb ofni beirniadaeth."
Mae steroidau yn gyffur Dosbarth C, ac er ei bod yn anghyfreithlon i'w creu a'u gwerthu, mae defnydd personol yn gyfreithlon.
'Prynu ar-lein'
Dywedodd un defnyddiwr - oedd eisiau aros yn ddienw - wrth BBC Cymru ei fod yn prynu steroidau ar-lein.
"Gallwn i fod wedi eu prynu ar y stryd, ond rwy'n ddigon call i beidio gwneud hynny, felly rwy'n eu prynu ar-lein," meddai.
"Mae'r cwmni'n edrych yn swyddogol, maen nhw'n cyrraedd mewn pecynnau proffesiynol ac rydych chi'n gallu gweld barn pobl ar-lein os ydyn nhw wedi defnyddio'r cwmni o'r blaen."
Ond dywedodd Ms Smith bod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynnal profion ar nifer o ffynonellau gwahanol o gyffuriau sy'n gwella perfformiad.
O'r rheiny gafodd eu profi, doedd tua thraean ddim yn cynnwys yr hyn roedden nhw'n honni, a dim cynhwysydd fyddai'n gwella perfformiad o gwbl mewn rhai achosion.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2017
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2017
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2017