Plaid yn galw am Ddeddf Awyr Lân i wella ansawdd aer

  • Cyhoeddwyd
Traffig
Disgrifiad o’r llun,

Yr amcangyfrif yw bod llygredd aer yn cyfrannu at tua 2,000 o farwolaethau yng Nghymru yn flynyddol

Mae ASau ac ACau Plaid Cymru yn galw am Ddeddf Awyr Lân i Gymru i wella ansawdd aer.

Gydag amcangyfrif bod llygredd aer yn cyfrannu at tua 2,000 o farwolaethau yng Nghymru bob blwyddyn, mae llefarydd newid hinsawdd y blaid, Simon Thomas yn dweud mai "mater i ni yw dechrau gwneud rhywbeth am ddiffyg gweithredu gan y Llywodraethau Ceidwadol a Llafur."

Ond yn ôl yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Ken Skates mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod datganoli'r pwerau a fyddai'n caniatáu i Lywodraeth Cymru fynd at wraidd y broblem, gwella safonau a defnyddio trethi i wella allyriadau "er inni erfyn dro ar ôl tro".

Strategaeth 'uchelgeisiol'

Mae Llywodraeth y DU wedi ymateb i'r feirniadaeth gan ddweud bod eu Strategaeth Awyr Lân diweddar yn un "uchelgeisiol" ac yn "amlinellu cynllun ar draws y DU i fynd i'r afael â llygredd aer".

Daw galwad Plaid Cymru wrth i'r Gweinidog Amgylchedd, Hannah Blythyn gadarnhau mai dydd Llun nesaf - 18 Mehefin - y bydd cyfyngiadau cyflymder o 50 mya yn dod i rym ar rannau mwyaf llygredig bump o ffyrdd prysuraf Cymru.

Mae'r cam, meddai, yn un o nifer o fesurau i wella ansawdd aer, gan gynnwys Cronfa Ansawdd Aer newydd gwerth £20m.

Dywedodd Mr Thomas y bydd Plaid Cymru'n cyflwyno Deddf Awyr Lân i Gymru "i ddirwyn i ben werthu cerbydau petrol a diesel yn unig yn raddol erbyn 2030 ac yn cefnogi'r trosi i geir glanach.

"Mae cerbydau diesel yn gyfranwyr mawr mewn trefi, gyda'r lefelau wrth ochr ffyrdd ar eu huchaf lle mae traffig ar ei brysuraf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ychwanegodd AS Dwyfor Meirionnydd Liz Saville Roberts mai "dyma enghraifft arall eto fyth o Blaid Cymru yn arwain yr agenda deddfwriaethol" ar ôl i lysoedd benderfynu bod llywodraethau Cymru a'r DU heb wneud digon i fynd i'r afael â llygredd aer.

"Ni allwn ganiatáu i hyn fynd ymlaen yn hwy," meddai.

"Rhaid i gydweithwyr ar draws Tŷ'r Cyffredin gefnogi cynigion Plaid Cymru i ddirwyn gwerthiant ceir disel a phetrol i ben erbyn 2030, i incwm o drethi tanwydd ddod i Gymru i'w wario ar ddewisiadau eraill o ran cludiant sydd yn gwella ansawdd yr aer, a phrofion go-iawn am allyriadau i bob cerbyd."

Amser gweithredu

Ond fe bwysleisiodd Mr Skates fod Llywodraeth y DU "wedi'n rhwystro ni rhag dilyn y trywydd roeddem am ei ddilyn ac mae'n bryd iddi hi nawr dorchi llewys a defnyddio er lles pobl Cymru y pwerau mae wedi'u gochel mor hir."

Mewn ymateb i'r feirniadaeth dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU eu bod wedi cyhoeddi Strategaeth Awyr Lân "uchelgeisiol" yn ddiweddar, gan gydweithio gyda'r llywodraethau datganoledig.

"Er bod ein hymgynghoriad cyhoeddus yn berthnasol i Loegr yn unig, mae'r strategaeth yn amlinellu cynllun ar draws y DU i fynd i'r afael â llygredd aer," meddai'r llefarydd.

"Fe gyfrannodd Cymru ran o'u cynlluniau nhw, a gyhoeddwyd fel rhan o'r ddogfen."