Ymweliad hanesyddol Amelia Earhart â Chymru
- Cyhoeddwyd
Mae pobl ar draws y byd yn ymwybodol o orchestion y peilot enwog, Amelia Earhart - y ddynes gyntaf i hedfan ar ei phen ei hun ar draws Môr yr Iwerydd.
Teithiodd ar draws y byd, gan ymweld â rhyfeddodau, ond efallai fod pawb ddim yn ymwybodol ei bod hi unwaith wedi ymweld â Chymru.
Glaniodd awyren Friendship ym Mae Caerfyrddin, ger pentref bychan Pwll, rhyw ddwy filltir o Borth Tywyn, am 12.40pm ar 18 Mehefin 1928.
Ar yr awyren oedd y peilot, Wilmer Stulz, y peiriannydd Lou Gordon, a'r awyrenwraig fyd-enwog, Amelia Earhart. Er mai teithiwr oedd Amelia ar yr hediad yma, dyma oedd y daith gyntaf erioed gan fenyw ar draws yr Iwerydd.
Roedd y triawd wedi gadael Harbwr Trepassey, Newfoundland 20 awr a 40 munud ynghynt, ac yn anelu am Southampton. Yn wir, roedden nhw'n credu mai yn Southampton oedden nhw pan lanion nhw.
Yn ôl hanes lleol, pan agorodd Amelia ddrws yr awyren a gweiddi ar ddyn lleol "Ble ydyn ni?", cafodd drafferth deall ei ateb oherwydd ei acen gref, felly caeodd y drws yn glep yn ei gwylltineb.
Heidiodd pobl o bell ac agos i gael cip ar yr awyren ddieithr - y tro cyntaf i nifer ohonyn nhw weld awyren erioed - ac i geisio cael sgwrs â'r peilot benywaidd enwog.
Llwyddodd newyddiadurwr o'r Llanelli Mercury i gael sgwrs â'r tri, ac roedd Amelia i weld yn hapus iawn i fod yng Nghymru.
"Mae'ch gwlad chi mor braf," meddai'r Americanes. "Mae'r llonyddwch a'r distawrwydd yn annog teimlad arbennig wedi i ni dreulio oriau yn gwthio'n ffordd trwy'r cymylau trwchus a'r niwl.
"Roedd e fel petai ein bod ni ar ein pennau ein hunain yn y byd. I feddwl fy mod i yn America 48 awr yn ôl a nawr dwi yng Nghymru!"
Er eu bod wedi bwriadu cario 'mlaen i Southampton, roedd tywydd garw wedi ei gwneud hi'n anodd, felly arhosodd y tri am noson yn ngwesty'r Ashburnham, Port Tywyn.
Bedair blynedd yn ddiweddarach, ar 20 Mai 1932, daeth Amelia Earhart y fenyw gyntaf i hedfan ar ei phen ei hun ar draws yr Iwerydd - o Harbour Grace yn Newfoundland, gan lanio yn Culmore, Gogledd Iwerddon 14 awr yn ddiweddarach.
Aeth Amelia Earhart ar goll ym mis Gorffennaf 1937 yn ei hymgais i fod y ddynes gyntaf i hedfan o amgylch y byd. Dyw hi erioed wedi cael ei ffeindio.