Heddlu'n rhyddhau ysgol ym Mhowys nôl i ofal y pennaeth
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau fod ysgol fuodd ar gau yn dilyn adroddiadau fod sylwedd wedi'i ddarganfod yno bellach wedi cael ei ryddhau yn ôl i ofal y pennaeth.
Cyhoeddodd y llu eu bod wedi eu galw i Ysgol Uwchradd Llanfair-ym-Muallt ychydig wedi 11:00 ddydd Iau 14 Mehefin yn dilyn adroddiadau fod sylwedd wedi ei ddarganfod a oedd yn achosi trafferthion anadlu ac anhwylder.
Cafodd llanc 16 oed ei arestio ac mae bellach wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth gydag amodau, wrth i'r heddlu barhau i ymchwilio.
Fe effeithiodd yr anhwylder ar tua 20 o bobl a gafodd eu trin gan griwiau ambiwlans, cyn cael eu hanfon adref.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Jon Cummins o Heddlu Dyfed Powys: "dwi'n falch i ddod a rhan o'r ymchwiliad yma i ben er mwyn i rieni, phlant a'r holl gymuned ddychwelyd i normalrwydd."