Torri coed yn Eryri ar gyfer barbeciw
- Cyhoeddwyd
Mae gwersyllwyr yn Eryri wedi cael eu beirniadu am dorri coed i'w llosgi ar farbeciw.
Dywed Cyfoeth Naturiol Cymru bod meinciau picnic hefyd wedi cael eu llosgi a bod sbwriel wedi cael ei ollwng yn Llyn Geirionydd ger Llanrwst.
Does dim caniatâd i wersylla ar y safle ac mae un o geidwaid CNC wedi sylwi ar y broblem yn ystod y tywydd twym diweddar.
Dywedodd llefarydd: "Mae'r difrod sydd wedi cael ei wneud yn difetha'r lle arbennig hwn i bawb arall a hefyd mi all fod yn beryglus i fywyd gwyllt."
Mae'r lleoliad yn boblogaidd gan gerddwyr, beicwyr modur a sgiwyr dŵr.
Mae CNC wedi annog pobl i aros ar feysydd gwersylla gerllaw yn hytrach na niweidio'r amgylchedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2017