Protocol yr ymchwiliad yn 'anfoddhaol' yn ôl y teulu

  • Cyhoeddwyd
Carl SargeantFfynhonnell y llun, Cyngor Rhondda Cynon Taf

Mae teulu Carl Sargeant wedi bygwth camau cyfreithiol ar ôl i gyfreithwyr honni eu bod nhw wedi cael eu heithrio o ymchwiliad i ddiswyddiad yr AC.

Dywedodd Neil Hudgell, cyfreithiwr y teulu, y bydd yr achos yn cael ei gymryd i'r Uchaf Lys "os oes rhaid".

"Mae'r teulu mewn galar ac yn prysur golli amynedd" meddai.

Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mae'r camau cyfreithiol arfaethedig wedi eu "camddeall".

'Anfoddhaol'

Cafodd Mr Sargeant ei ddarganfod yn farw ym mis Tachwedd - pedwar diwrnod wedi iddo gael ei ddiswyddo o'r cabinet.

Ar hyn o bryd mae Paul Bowen QC yn ymchwilio i sut y gwnaeth Carwyn Jones ddelio â chael gwared ar AC Alun a Glannau Dyfrdwy o'r cabinet.

Yn ôl Mr Hudgell, mae protocol gweithredu'r ymchwiliad yn "hynod o anfoddhaol".

Mae'r cyfreithiwr hefyd yn honni fod e-bost a gafodd ei yrru i staff ar ddydd Gwener yn "arwydd clir nad yw'r llywodraeth yn barod i fod yn agored ac yn dryloyw wrth ddelio a'r ymchwiliad".

"Dyw'r teulu ddim ond wedi cytuno i'r protocol er mwyn parhau a'r ymchwiliad" meddai, gan ychwanegu fod y teulu dal i boeni yn fawr am benderfyniad yr Ysgrifennydd Parhaol, Shan Morgan ynglŷn ag eithriad y teulu.

"Mae'r Ysgrifennydd Parhaol, ar ran y Prif Weinidog, wedi gwrthod gadael i'r teulu gael cynrychiolaeth yn yr ymchwiliad, ac felly ni fydd modd i fargyfreithiwr groesholi tystion."

Ystyried dadleuon yn 'ofalus'

Dywedodd llefarydd o ran yr Ysgrifennydd Parhaol: "Mae'r arfer o gyfweliadau yn cael eu cynnal gan y tîm ymchwilio yn gyffredin mewn ymchwiliadau ar gais y llywodraeth, a chafodd hyn ei gytuno ar y cyd â Mr Bowen yn ystod trafodaethau diweddar am y protocol gweithredu terfynol".

"Mae'r protocol yn gosod y sylfaen i'r ymchwiliad ac yn galluogi'r teulu ac unrhyw gyfranogwyr eraill i gynnig cwestiynau i'r ymchwilwyr."

Nid oes unrhyw gwynion am amseru wedi codi o'r blaen yn ôl y llefarydd, ac mae'n dweud y bydd y dadleuon cyfreithiol nawr yn cael eu "hystyried yn ofalus".