Cadarnhau cylch gorchwyl ymchwiliad Sargeant
- Cyhoeddwyd
Mae'r dyn fydd yn gyfrifol am ymchwilio i'r modd y deliodd y Prif Weinidog â diswyddiad Carl Sargeant wedi cadarnhau beth fydd cylch gorchwyl yr ymchwiliad.
Bydd Paul Bowen QC yn ymchwilio i'r hyn wnaeth Carwyn Jones cyn ac ar ôl i'r diweddar Mr Sargeant golli ei swydd.
Wrth alw ar bobl i roi tystiolaeth, dywedodd y byddai'r ymchwiliad yn un trylwyr ac annibynnol.
Cafodd Mr Sargeant ei ganfod yn farw ym mis Tachwedd, bedwar diwrnod wedi iddo gael ei ddiswyddo.
Roedd e ar y pryd yn wynebu ymchwiliad o fewn y Blaid Lafur i honiadau ei fod wedi ymddwyn yn amhriodol tuag at fenywod.
Mae teulu Mr Sargeant wedi bod yn galw am beidio â chyfyngu'r ymchwiliad i'r diwrnod y collodd y diweddar Aelod Cynulliad ei swydd fel Ysgrifennydd Cymunedau.
Dywedodd Paul Bowen QC: "Rwy'n gobeithio y bydd unrhyw un sy'n gallu darparu tystiolaeth yn ymwneud â chylch gorchwyl yr ymchwiliad yn gwneud hynny'n llawn a chyn gynted â phosib, fel y gall fy nhîm a finnau gwblhau pob rhan o'n gwaith o fewn y cyfnod o chwe mis sydd wedi ei osod i ni."
"O ystyried natur sensitif yr ymchwiliad, fydd fy ngwrandawiadau ddim yn agored i'r cyhoedd na'r cyfryngau, a dydw i ddim yn bwriadu gwneud sylw pellach cyn cyhoeddi fy adroddiad tuag at ddiwedd y flwyddyn."
Diolchodd Mr Bowen i deulu Mr Sargeant am eu "hamynedd a'u cydweithredediad hyd yma, ar adeg sydd, mae'n rhaid, yn anodd iawn iddyn nhw".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2018