Pwy fydd perchennog newydd cadair Eisteddfod Pwllheli 1912?
- Cyhoeddwyd
Cododd cwestiwn mawr ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru yn ddiweddar - beth sydd yn digwydd i gadeiriau eisteddfodol wedi i'r eisteddfod ddod i ben?, dolen allanol
Wel, yr ateb weithiau yw cael eu gwerthu mewn arwerthiant yng Ngwlad yr Haf...
Roedd y cyfrif Twitter, Casglu Cadeiriau, wedi trydar i ddweud fod yna eitem ddiddorol ar werth ar wefan gwerthu, dolen allanol - sef cadair Eisteddfod Pwllheli 1912.
Nod y cyfrif Twitter yw ceisio dod o hyd i hanesion cadeiriau eisteddfodol coll - ac roedden nhw'n awyddus i ddatrys dirgelwch y gadair dderw hardd yma.
Hedd Wyn oedd enillydd y gadair yn yr eisteddfod hon yn 1913, ond nid oedd hi'n glir i ddechrau pwy oedd enillydd cadair 1912.
Ond mae Ffion Eluned Owen wedi gwneud ychydig o waith cartref, ac wedi cael arddeall mai'r enillydd oedd D J Roberts o Riwabon, gyda phryddest ar y testun Sêr y Nos.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Yn ôl y bardd Gruffudd Antur, enillodd D J Roberts gadair Eisteddfod Llanfair Dyffryn Clwyd yr un flwyddyn - felly roedd yn amlwg yn fardd dawnus.
Ond tybed oes unrhyw un yn gwybod beth yw hanes cadair Pwllheli yn ystod y ganrif ddiwethaf, a sut ei bod nawr ar werth, mor bell i ffwrdd o adref?
Nid hon yw'r gadair gyntaf o un o eisteddfodau Pwllheli i ymddangos ar wefan arwerthiant. Yn 2015, bu ymgyrch lwyddiannus gan rai o drigolion Pen Llŷn i brynu cadair eisteddfod 1921, a'i dychwelyd yn ôl i'w chynefin, ar ôl iddi gael ei ffeindio ar wefan ebay.
Mae Aled Hughes wedi dechrau ymgyrch i godi arian i brynu cadair D J Roberts yn yr arwerthiant ar 5 Gorffennaf, er mwyn i honno ddychwelyd i Bwllhelli hefyd, ac mae llawer o arian wedi cael ei gynnig yn barod.
Felly, beth fydd tynged cadair 1912? Amser a ddengys...