Lansio gêm fodern ar hanes Eisteddfod castell Aberteifi

  • Cyhoeddwyd
Gem Castell Aberteifi

Efallai bod Castell Aberteifi'n dyddio'n ôl ganrifoedd, ond mae'r dechnoleg ddiweddara'n cael ei defnyddio i ddod â'i chysylltiad â'r eisteddfod yn fyw.

Mae gêm ryngweithiol newydd ddwyieithog wedi ei datblygu i gyflwyno hanes yr eisteddfod gyntaf yn Aberteifi yn 1176.

Gyda nawdd o Gronfa Treftadaeth y Lotei, cafodd y gêm ei dyfeisio gan y cynhyrchydd teledu a ffilm, Carol Byrne Jones, gyda chymorth y Prifardd Ceri Wyn Jones, y dylunydd a'r animeiddwraig Tanya Griffiths a'r arbenigwr meddalwedd Steve Knight.

Y bwriad yw cyflwyno agweddau cystadleuol o'r eisteddfod mewn dull hwylus a diddorol, nid yn unig i Gymry sy'n gyfarwydd â'r traddodiad, ond hefyd i ymwelwyr â'r castell o wledydd eraill.

Disgrifiad,

Y Prifardd Ceri Wyn Jones sy'n gyfrifol am agwedd farddonol y gêm

Yn ôl cydlynydd y castell, Sue Lewis mae'n ymdrech i ennyn diddordeb yn arddangosfa'r castell ar yr eisteddfod: "Naethon ni ddarganfod bod ymwelwyr ddim yn talu llawer o sylw i'r arddangosfa eisteddfodol.

"Felly roedd angen atyniad gwahanol a fyddai'n eu denu, cadw eu diddordeb, a phwysicaf oll, cynnig blas o'r ynni creadigol a'r sbri sy'n ysbrydoli'r eisteddfod."

Mae'r gêm, sydd wedi ei lleoli yn ystafell yr eisteddfod eisoes wedi creu argraff ffafriol, gyda'r ymwelwyr yn mwynhau chwarae'r ddwy gystadleuaeth, y farddol a'r gerddorol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae plant wedi ymateb yn galonogol i'r gêm, medd y cynhyrchydd ffilm Carol Byrne Jones

Cafodd y gemau eu profi ar blant ysgolion cynradd lleol, sef Aber-porth, T Llew Jones, Penparc, Aberteifi a Llandudoch.

Dywedodd Carol Byrne Jones fod y profion hynny wedi bod yn llwyddiannus: "Mae adborth y plant - a'r oedolion a fentrodd y tasgau - wedi bod yn galonogol tu hwnt ac yn ddefnyddiol iawn.

"Da gwybod eu bod nhw eisiau mwy!"

Bydd lansiad swyddogol y gêm brynhawn Sadwrn, 23 Mehefin ar ôl datgan agoriad Gŵyl Fawr Aberteifi am 14:30.