Carcharu dau wedi digwyddiad Casnewydd
- Cyhoeddwyd
Mae dau ddyn wedi cael eu carcharu yn dilyn ymladdfa y tu allan i glwb nos arweiniodd at gar yn taro mewn i nifer o bobl.
Bu Benjamin Thomas, 19 oed a Callum Banton, 20 oed yn ymladd gyda phobl eraill ger clwb The Courtyard yng Nghasnewydd ar 29 Ebrill.
Ychydig yn ddiweddarach fe gafodd dwy fenyw eu hanafu'n ddifrifol wedi i gar daro criw o bobl.
Fe wnaeth Thomas a Banton, oedd ddim yn y car, bledio'n euog i achosi ffrae.
Clywodd y llys bod yr ymladd meddw wedi "arwain at" y digwyddiad ar Ffordd Cambrian am 05:30 ar 29 Ebrill.
'Esiampl drist'
Dywedodd y Barnwr John Jenkins bod ymddygiad Thomas a Banton, er nad oedden nhw yn y car, â'r "potensial i greu aflonyddwch cyhoeddus difrifol".
"Mae'n esiampl drist arall o bobl ifanc meddw yn gyhoeddus yn ymddwyn yn dreisgar," meddai.
Gwelodd y llys luniau CCTV o'r ymladd rhwng Banton a chriw o ddynion cyn i Thomas ymuno.
Wrth i'r ymladd barhau, daeth y car yn rhan o'r digwyddiad.
Bydd y dyn sydd wedi'i gyhuddo o yrru'r car, McCauley Cox - 18 oed o Gasnewydd - yn sefyll ei brawf yn ddiweddarach eleni ar ôl pledio'n ddieuog i achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol.
Pwysleisiodd y Barnwr Jenkins nad oes awgrym fod Thomas na Banton wedi chwarae unrhyw ran i yrru'r car.
Cafodd Thomas ei ddedfrydu i 11 mis mewn carchar ieuenctid, gyda Banton yn cael dedfryd o 10 mis dan glo.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mai 2018
- Cyhoeddwyd5 Mai 2018
- Cyhoeddwyd2 Mai 2018
- Cyhoeddwyd1 Mai 2018