Trefnydd yn 'fodlon' gyda diogelwch ras feicio angheuol

  • Cyhoeddwyd
Peter Walton and Judith GarrettFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Judith Garrett yn gwylio ei chariad Peter Walton yn cystadlu yn y ras

Mae trefnydd ras feicio mynydd wnaeth arwain at farwolaeth dynes yn Sir Ddinbych wedi dweud ei fod yn hapus â threfniadau diogelwch y digwyddiad.

Bu farw Judith Garrett, 27, wedi iddi gael ei tharo gan feic ar ôl i seiclwr golli rheolaeth yn y digwyddiad ar dir fferm Tan y Graig ger Llangollen ym mis Awst 2014.

Fe wnaeth hi daro ei phen ar goeden, gan dorri ei phenglog a chael gwaedlif. Bu farw ddiwrnod yn ddiweddarach.

Mae Michael Marsden, 41 o Gaerhirfryn, yn gwadu methu â chynnal y digwyddiad mewn ffordd oedd yn sicrhau nad oedd pobl yn wynebu perygl.

Mae wedi pledio'n ddieuog hefyd i fethu â gwneud asesiad risg digonol.

Ffynhonnell y llun, BBC
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r trefnydd Michael Marsden yn gwadu'r cyhuddiadau yn ei erbyn

Dywedodd wrth Lys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Mawrth ei fod wedi cynnal digwyddiadau tebyg ar yr un safle ger Llangollen yn 2010 a 2013.

Roedd llwybr y ras wedi cael ei nodi gyda thâp a dywedodd ei fod wedi cerdded y llwybr i asesu unrhyw fannau ble'r oedd yn gweld y perygl o broblem.

Ychwanegodd ei fod yn "hapus gyda'r tapio oedd wedi'i wneud" a'i fod wedi gwneud "mân newidiadau" yn unig.

Gofynnwyd i Mr Marsden pam nad oedd wedi atal gwylwyr rhag mynd yn agos at y llwybr tua'r diwedd, ble ddigwyddodd y ddamwain angheuol.

"Doeddwn i ddim yn meddwl bod angen atal cefnogwyr o'r ardal am nad oeddwn i erioed wedi gweld rhywun yn dod oddi ar y llwybr yno," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y ddamwain ar dir fferm Tan y Graig ger Llangollen ym mis Awst 2014

Mae Ffederasiwn Seiclo Prydain hefyd yn wynebu cyhuddiadau o fethu yn ei gyfrifoldebau i oruchwylio'r digwyddiad a rhoi sêl bendith i'r asesiad risg.

Cafodd yr achos yn erbyn Kevin Duckworth, oedd wedi'i gyhuddo o fethu yn ei gyfrifoldebau fel marsial yn y digwyddiad, ei ollwng fore Mawrth.

Mae'r achos yn parhau.