Amgueddfa Werin Cymru'n cyrraedd oed yr addewid

  • Cyhoeddwyd
Bryn EryrFfynhonnell y llun, Amgueddfa Werin Cymru

Mae Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru'n hel atgofion wrth nodi ei phen-blwydd yn 70 oed.

Fe agorodd yr amgueddfa - atyniad treftadaeth mwyaf poblogaidd Cymru erbyn hyn - ar gyrion Caerdydd ar 1 Gorffennaf 1948.

Mae'r safle - un o blith saith sydd dan reolaeth Amgueddfa Cymru - yn cael ei ddisgrifio yn un o amgueddfeydd awyr agored mwyaf blaenllaw Ewrop, ac mae'n denu bron i 500,000 o ymwelwyr y flwyddyn.

I nodi'r garreg filltir ddydd, Sul mae 'na apêl i ymwelwyr rannu eu hatgofion o'r safle mewn bwth fideo, ac i ddod â hen luniau er mwyn i staff Casgliad y Werin eu cofnodi'n ddigidol.

Ffynhonnell y llun, Amgueddfa Werin Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae rheolwyr yr amgueddfa'n annog bobl i rannu atgofion a lluniau o'u hymweliad

Dywedodd pennaeth Sain Ffagan, Bethan Lewis: "Amgueddfa pobl Cymru yw Sain Ffagan ac rydym eisiau clywed eich atgofion chi dros y blynyddoedd.

"Os nad ydych chi'n gallu cyrraedd yma, mae cyfle i chi rannu atgofion a ffotograffau o'ch ymweliadau drwy'r cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #creuhanes neu ddod i ymuno â ni yn ystod wythnos yr Eisteddfod yng Nghaerdydd."

Ymlaen i'r 70 mlynedd nesaf

Mae'r digwyddiad ddydd Sul yn cynnwys amgueddfa dros dro sy'n dangos rhai o "wrthrychau pwysig blynyddoedd cynnar yr Amgueddfa" a chyfle i wylio clipiau o'r archif yn y ddarlithfa.

Bydd rhagor o ddatblygiadau yn y misoedd nesaf wrth i reolwyr "edrych ymlaen at y 70 [mlynedd] nesaf".

Ym mis Hydref 2018, bydd Amgueddfa Cymru'n nodi diwedd y prosiect ail-ddatblygu mwyaf yn hanes Sain Ffagan - cynllun a gafodd ei wireddu yn rhannol ar ôl derbyn grant yn 2012 oedd yr un mwyaf erioed i Gronfa Treftadaeth y Loteri ei roi yng Nghymru.

Ffynhonnell y llun, Amgueddfa Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Llun artist o sut all Llys Rhosyr fod wedi edrych yn yr 13eg Ganrif

Mae'r cynllyn yn galluogi'r amgueddfa i adrodd hanes bywyd yng Nghymru dros 200,000 o flynyddoedd a mwy. Mae'n cynnwys orielau newydd yn y prif adeilad ac yn yr adeilad newydd Gweithdy, sy'n arddangos a hybu sgiliau crefftwyr ddoe a heddiw.

Bydd Llys Llywelyn - ail-gread o lys tywysog canoloesol Llys Rhosyr ar Ynys Môn - hefyd yn agor, gan roi blas o sut y byddai Llywelyn Fawr wedi byw, gwledda a rheoli, 800 mlynedd yn ôl.

Hefyd i ddathlu'r pen-blwydd arbennig mae Amgueddfa Cymru yn noddi cadair Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018.

Mae'r amgueddfa werin wedi'i lleoli ar 100 erw o dir Castell Sain Ffagan, plasty o'r 16eg ganrif - tir a roddwyd i bobl Cymru gan Iarll Plymouth ym 1948.

Ers hynny, mae dros 40 o adeiladau gwreiddiol o wahanol gyfnodau wedi'u hail-adeiladu yno, gan gynnwys ffermdy o'r oes haearn, eglwys ganoloesol ac ysgol o oes Fictoria.