Ymateb llywodraeth i adroddiad iechyd 'ddim digon da'

  • Cyhoeddwyd
Person ifancFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae ymateb Llywodraeth Cymru i alwadau i wneud iechyd meddwl ac emosiynol plant yn flaenoriaeth wedi cael ei wrthod gan grŵp o aelodau'r Cynulliad, ddywedodd nad oedd yn "ddigon da".

Cafodd adroddiad gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ei gyflwyno yn gynharach eleni gan awgrymu newidiadau i'r ddarpariaeth iechyd meddwl ar gyfer pobl ifanc.

Yn ôl cadeirydd y pwyllgor, Lynne Neagle AC, doedd y dystiolaeth a'r awgrymiadau gafodd eu cyflwyno ddim wedi derbyn "y parch yr oeddent yn ei haeddu".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod iechyd meddwl ac emosiynol pobl ifanc yn flaenoriaeth, ac er eu bod yn anghytuno ynglŷn â sut i gyflawni rhai o'r argymhellion, maen nhw'n rhannu'r un uchelgais.

Yn ôl Ms Neagle mae'r pwyllgor yn credu fod angen gwneud "rhywbeth difrifol" er mwyn sicrhau nad yw plant a phobl ifanc yn parhau i "ddioddef heb fod angen".

Mae'r argymhellion yn cynnwys rhoi mwy o bwyslais ar atal problemau iechyd meddwl a chlustnodi cyllid ar gyfer ysgolion er mwyn hybu iechyd meddwl.

Dywedodd Ms Neagle wrth ei chyd-ACau fod ymateb y llywodraeth i'r adroddiad wedi gwrthod gormod o'r argymhellion, tra bod rhai eraill wedi'u derbyn "mewn egwyddor yn unig".

Yn ôl cadeirydd y pwyllgor, nid oedd yr ymateb yn cyd-fynd â gofynion yr adroddiad am newid yn y dull gweithredu.

'Angen ailystyried'

Dywedodd yr AC Llafur fod angen i ysgrifenyddion y cabinet ailystyried eu hymateb, gan ddod yn ôl at y pwyllgor gydag ymateb newydd erbyn mis Hydref.

"Fel pwyllgor rydym ni'n gwrthod yr ymateb yma. Dydi o ddim yn ddigon da," meddai Ms Neagle.

"Nid yw'r dystiolaeth fanwl a gafodd ei amlinellu gan sawl arbenigwr gyda phrofiad yn y maes, na chwaith yr awgrymiadau gafodd eu hystyried yn ofalus wedi derbyn y gydnabyddiaeth, y dadansoddiad na'r parch yr oeddynt yn ei haeddu."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ychwanegodd: "Nid yw'r newidiadau yr ydym ni wedi galw amdanyn nhw yn ymddangos yn yr ymateb presennol.

"Dyw ein huchelgais ni ddim wedi derbyn yr un uchelgais y byddwn yn ei ddisgwyl a'i fynnu gan ein llywodraeth."

'Cynnydd wedi'i wneud'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "cydnabod fod llawer o waith dal i'w wneud", ond fod cynnydd wedi'i wneud ym maes iechyd meddwl.

Yn ôl y llefarydd mae'r llywodraeth wedi cynyddu'r cyllid sydd ar gael ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) mewn ysgolion, sy'n cynnig cefnogaeth broffesiynol i bobl ifanc.

"Rydym yn buddsoddi yn arwyddocaol er mwyn gwella'r ddarpariaeth CAMHS ar draws gofal cynradd ac uwchradd, gydag £8m yn cael ei roi yn flynyddol tuag at recriwtio staff, hyfforddi staff presennol a sefydlu gwasanaethau newydd," meddai.

"Byddwn yn adlewyrchu ar y sylwadau a wnaed yn y siambr heddiw a byddwn yn parhau i weithio gyda'r pwyllgor er mwyn sicrhau'r gefnogaeth iechyd meddwl ac emosiynol gorau phosib i'n pobl ifanc."

Ymateb 'siomedig'

Yn ôl AC Llanelli, Lee Waters mae ymateb y llywodraeth yn "hynod o siomedig".

Wrth drafod achos o fewn ei deulu ei hun, dywedodd y byddai ymyrraeth gynnar wedi "rhwystro straen a gofid teuluol enfawr".

Soniodd AC Plaid Cymru Dai Lloyd o'i brofiad ef o weld pobl ifanc wedi ei "niweidio yn ddifrifol" yn ei feddygfa yn Abertawe.

"Dwi'n gorfod aros tan eu bod nhw'n ddigon drwg i gael mynediad at Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed," meddai.