Lles meddyliol da plant angen bod yn 'flaenoriaeth'
- Cyhoeddwyd
Mae angen buddsoddi mewn gwasanaethau ymyrraeth gynnar ar gyfer plant a phobl ifanc yn y maes iechyd meddwl, er mwyn osgoi neu leihau "trallod diangen", medd un o bwyllgorau'r Cynulliad.
Dyma yw prif argymhelliad adroddiad sy'n dweud bod angen gweithredu "ar frys".
Yn ôl yr adroddiad, byddai peidio â gweithredu yn "bygwth cynaliadwyedd gwasanaethau mwy arbenigol i'r rhai sydd â salwch mwy difrifol".
Tra bod ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn cydnabod bod yna welliannau ers 2014 i'r gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol (CAMHS), dyw'r newidiadau ddim yn mynd ddigon pell.
Y casgliad yw bod mwy i'w wneud fel bod y bobl sydd angen y cymorth mwyaf yn ei gael mewn lleoliad priodol ac mewn da bryd.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n ystyried yr adroddiad yn fanwl.
Pwrpas yr ymchwiliad?
Cafodd yr ymchwiliad ei lunio er mwyn craffu ar y gwasanaethau atal ac ymyrraeth gynnar sy'n cael eu cynnig i blant a phobl ifanc.
Y casgliad oedd bod angen gwneud yn siŵr bod pobl ifanc yn ddigon gwydn ac yn feddyliol iach.
Mae'r pwyllgor yn dweud bod hefyd angen mwy o bwyslais ar ymyrraeth gynnar ac y dylai'r agweddau hyn fod yn "flaenoriaeth genedlaethol" i'r llywodraeth.
Ymysg yr argymhellion mae sicrhau:
Bod iechyd emosiynol a meddyliol yn rhan o'r cwricwlwm addysg newydd;
Bod hyfforddiant priodol yn cael ei roi i bobl sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc;
Bod adnoddau i ysgolion ddod yn ganolfannau cymunedol o gefnogaeth ar draws sectorau.
'Tri phlentyn ym mhob dosbarth'
Dywedodd Lynne Neagle AC, Cadeirydd y Pwyllgor: "Amcangyfrifir y bydd gan dri phlentyn ym mhob ystafell ddosbarth gyffredin broblem iechyd meddwl.
"Erbyn y bydd plentyn yn 14 oed, bydd hanner yr holl broblemau iechyd meddwl wedi dechrau.
"Er mwyn atal y llif, mae angen newid sylweddol yn y flaenoriaeth a gaiff ei roi i gefnogi gwydnwch a lles emosiynol plant a phobl ifanc yng Nghymru."
Rhybudd yr adroddiad yw y gallai peidio â gweithredu arwain at fwy o alw ar wasanaethau arbenigol, all wedyn olygu nad ydynt yn gweithredu mor effeithiol.
Agwedd arall yr ymchwiliad oedd edrych ar sefyllfa bresennol CAMHS, a hynny flynyddoedd ers yr ymchwiliad blaenorol ar y mater.
Yn 2014, y casgliad oedd bod gormod o blant a phobl ifanc yn cael eu cyfeirio at wasanaethau oedd yn anaddas i'w hanghenion.
Er bod y pwyllgor y tro yma yn dweud bod gwelliannau wedi eu gwneud, dyw'r sefyllfa ddim wedi newid digon.
Dywed yr adroddiad: "Yn syml iawn, nid yw'r darnau yn eu lle i alluogi plant a phobl ifanc i gael cymorth y tu allan i'r lleoliadau mwyaf arbenigol.
"Bedair blynedd ers yr ymchwiliad diwethaf, mae hyn yn annerbyniol a rhaid i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â'r sefyllfa ar frys."
Argymhellion eraill
27 argymhelliad arall sydd yn y ddogfen sy'n cynnwys:
Bod cynllun gweithredu cenedlaethol yn cael ei lunio ar gyfer therapïau seicolegol;
Bod canllawiau yn cael eu darparu i ysgolion ynglŷn â thrafod hunanladdiad a hunan-niweidio;
Edrych ar y cynlluniau lles emosiynol a meddyliol sy'n bodoli ac argymell un dulli ysgolion ar draws Cymru.
Dywedodd llefarydd Llywodraeth Cymru eu bod yn "croesawu cydnabyddiaeth y pwyllgor o'r gwelliannau yn narpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl yn y blynyddoedd diweddar.
"Byddwn yn ystyried argymhellion yr adroddiad yn ofalus ac yn ymateb ymhen amser."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Medi 2017
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2016