Agor cynllun atal llifogydd gwerth £6m yn Llanelwy

  • Cyhoeddwyd
Llifogydd Llanelwy yn 2012
Disgrifiad o’r llun,

Roedd llifogydd difrifol yn Llanelwy wedi glaw trwm yn 2012

Mae cynllun atal llifogydd all wneud "gwahaniaeth go iawn" i drigolion tref sydd wedi dioddef yn y gorffennol wedi ei agor yn swyddogol.

Bwriad y cynllun £6m ydy amddiffyn dros 400 o gartrefi a busnesau a chynnig hwb i fywydau trigolion y ddinas.

Cafodd y cynllun ei gomisiynu gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn dilyn llifogydd difrifol yn 2012.

Cafodd 320 o adeiladau eu heffeithio wedi i Afon Elwy orlifo dros yr amddiffynfeydd gwreiddiol ar 27 Tachwedd 2012, gan orfodi nifer i symud o'u tai ac arwain at farwolaeth Margaret Hughes, 91 oed.

Mae gwelliannau i gyfleusterau hamdden ac amgylcheddol y ddinas hefyd ynghlwm wrth y cynllun atal llifogydd.

Yn ogystal ag ail-adeiladu'r amddiffynfeydd yn uwch ac ychwanegu seiliau newydd, mae'r newidiadau'n cynnwys cryfhau pont hanesyddol y ddinas ac agor llwybrau cerdded newydd.

Mae trosglwyddydd Bluetooth 'i-beacon' sy'n gysylltiedig â phrosiect Cadwyn Clwyd hefyd wedi ei osod gyda'r bwriad o gyd-fynd â thaith gerdded o amgylch y ddinas.

Mae CNC yn plannu mwy o goed yn lle'r rhai cafodd eu dinistrio gan y llifogydd ac wedi gosod blychau ar gyfer adar ac ystlumod.

'Gwahaniaeth go iawn'

Mae'r newidiadau i amddiffynfeydd llifogydd Llanelwy wedi cael eu hariannu gan raglen gwerth £56m gan Lywodraeth Cymru.

Yn ôl Tim Jones, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithredoedd CNC yn y gogledd mae'r cynllun yn mynd i wneud "gwahaniaeth go iawn" i bobl y ddinas.

"Mae'n cynnig hwb mawr i drigolion a busnesau ac yn lleddfu pryderon lleol am weld Afon Elwy yn gorlifo eto," meddai.

"Ar ben hynny, mae'r gwelliannau amgylcheddol a'r cyfleoedd hamdden newydd sy'n deillio o'r cynllun yn hybu bywyd beunyddiol pawb yn y ddinas hefyd."

Cafodd plac arbennig ei ddadorchuddio gan Weinidog yr Amgylchedd, Hannah Blythyn AC, i nodi agor y cynllun yn swyddogol.