Gwobr llais theatr gerdd Eisteddfod Llangollen i Mared

  • Cyhoeddwyd
Mared WilliamsFfynhonnell y llun, Eisteddfod Llangollen
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mared Williams ei bod yn falch o gael cynrychioli Cymru yn Awstralia

Y gantores o Lannefydd ger Dinbych, Mared Williams yw enillydd y wobr Llais Rhyngwladol Theatr Gerdd yn Eisteddfod Llangollen 2018.

Dywedodd y beirniaid ei fod wedi rhoi perfformiad "swynol a chyfareddol" yn y rownd derfynol ym Mhafiliwn Llangollen.

Fel rhan o'r wobr, fe fydd yn perfformio yn Eisteddfod Gold Coast yn Awstralia ym mis Hydref. Mae hefyd wedi cael medal a gwobr ariannol o £1,500.

Dywedodd: "Ar ôl dod yn drydydd y llynedd, mae'n wirioneddol gyffrous i wella ar hynny a dod yn gyntaf eleni, ac rwy'n falch iawn o gael cynrychioli Cymru yn yr Eisteddfod."

Roedd y gantores 21 oed, sy'n aelod o'r band Trŵbz, wedi rhoi perfformiad "aruthrol" yn ôl cyfarwyddwr cerddorol Eisteddfod Llangollen, Vicky Yannoula.

Dywedodd un o'r ddau feirniad, Sarah Wigley ei bod wedi amlygu "ei gallu i gyfathrebu gyda'r gynulleidfa, ei hangerdd o fod ar lwyfan a'i dawn ac ystod lleisiol."

Eisteddfod Gold Coast - sy'n denu dros 70,000 o gantorion a dawnswyr - sy'n talu am y daith i Awstralia fel rhan o'r berthynas hir rhwng y ddwy Eisteddfod.

Kade Bailey o Ganada oedd yn ail yn y gystadleuaeth a Megan-Hollie Robertson - enillydd y llynedd sy'n hanu o Wrecsam - oedd yn drydedd.

Daeth Mared - sydd wedi bod yn gigio yn Leeds tra'n astudio cerddoriaeth yn y brifysgol yno - yn ail yng nghystadleuaeth Cân i Gymru eleni gyda'r gân Byw a Bod.