Opera Cenedlaethol Cymru i benodi arweinydd benywaidd

  • Cyhoeddwyd
Logo rhaglen breswyl WNOFfynhonnell y llun, WNO

Mae Opera Cenedlaethol Cymru (OCC) wedi creu rhaglen breswyl arbennig ar gyfer menywod sy'n datblygu gyrfa fel arweinydd mewn cam i fynd i'r afael â diffyg cydraddoldeb.

Dywedodd y cwmni eu bod "yn ymwybodol o rai o'r heriau y mae menywod yn eu hwynebu wrth ymgymryd â gyrfa fel arweinydd", a'u bod yn "awyddus i ddod o hyd i ffyrdd i ailystyried y cydbwysedd rhwng y rhywiau ar draws y diwydiant".

Mae'r rhaglen newydd yn cynnig swydd breswyl gyda OCC am 18 mis i arweinydd benywaidd "uchelgeisiol" rhwng 19-35 oed.

Dywedodd cyfarwyddwr partneriaethau OCC, Emma Flatley eu bod "yn cydnabod bod rhaid gwneud rhywbeth am y ffaith bod llai o fenywod o lawer yn dod i'r proffesiwn fel arweinydd".

Yn ystod y breswylfa, fe fydd yr arweinydd llwyddiannus yn cael ei mentora gan arweinydd sefydledig benywaidd arall sy'n gweithio yn y DU.

Ffynhonnell y llun, Jane Hobson
Disgrifiad o’r llun,

Hanes yr ymgyrchydd hawliau cyfartal i fenywod, Arglwyddes Rhondda oedd testun cynhyrchiad diweddar OCC, Rhondda Rips It Up!

Bydd cyfle hefyd i weithio'n uniongyrchol gyda cherddorfa OCC ar draws ei repertoire - prif-lwyfan, ieuenctid a chymuned a phrosiectau cyngherddau teulu.

Mae'r cyfnod preswyl wedi ei gynllunio fel bod yr arweinydd yn gallu cymryd rhan heb orfod newid cynlluniau sydd eisoes wedi eu trefnu.

Dywedodd Ms Flatley: "Rydyn ni'n falch o arbrofi gyda'r rhaglen yma, nid yn unig er mwyn mynd ati i chwilio am fenywod talentog ar gychwyn eu gyrfa fel arweinydd ond i roi cyfleoedd a thechnegau arweinyddiaeth operatig a cherddorol.

"Mae cyfleoedd yma'n cynnwys gweithio ar ystod o brosiectau gydag ein cerddorfa a chantorion. Rydym yn gobeithio y bydd hwn yn gychwyn proses i annog mwy o fenywod i fod yn arweinwyr."

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn derbyn ysgoloriaeth.

13 Hydref yw'r dyddiad cau am geisiadau ac mae disgwyl i'r breswylfa dechrau yn nhymor gwanwyn 2019 y cwmni.