Kinnock yn galw am aros yn Ardal Economaidd Ewrop

  • Cyhoeddwyd
Stephen Kinnock
Disgrifiad o’r llun,

Mae Stephen Kinnock wastad wedi mynnu y byddai'n well aros yn Ardal Economaidd Ewrop

Dylai'r Blaid Lafur ymrwymo i fodel Brexit fyddai'n gweld y DU yn parhau i wneud cyfraniadau ariannol i'r UE a derbyn nifer o'i gyfreithiau, yn ôl AS y blaid o Gymru.

Dywedodd Stephen Kinnock wrth raglen Sunday Politics Wales y byddai parhau yn Ardal Economaidd Ewrop (AEE) yn "rhoi'r eglurder a'r sicrwydd sydd angen ar ein gwlad".

Roedd yn ymateb i gyfarfod y cabinet yn Chequers ddydd Gwener, ble cytunwyd bod y DU eisiau ardal fasnach rydd gyda'r UE ar gyfer nwyddau diwydiannol ac amaethyddol.

Dywedodd Mr Kinnock, sy'n aelod o Bwyllgor Brexit San Steffan, y byddai'r cytundeb yn dechrau datod unwaith y byddai'r DU yn trafod "y manylion ymarferol" gyda'r Undeb Ewropeaidd.

Mae AS Aberafan wastad wedi mynnu mai'r model gorau ar gyfer y berthynas rhwng y DU a'r UE yn y dyfodol fyddai aros yn AEE.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jeremy Corbyn wedi wfftio galwadau i aros yn Ardal Economaidd Ewrop

Mae aelodaeth ohono'n drefniant fyddai'n gweld y DU yn cadw mynediad at farchnad fewnol yr UE o 300 miliwn o bobl, a byddai'r DU yn gorfod gwneud cyfraniadau ariannol a derbyn y mwyafrif o gyfreithiau'r UE.

Mae Norwy â chytundeb tebyg â'r Undeb Ewropeaidd, a byddai'r hawl i symud a gweithio yng ngwledydd eraill yr UE yn parhau.

Yn y gorffennol mae arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn wedi dweud y byddai'r DU yn "ddilynwyr, nid crewyr rheolau" pe bai'n aros yn AEE ar ôl Brexit.

Dywedodd Mr Corbyn ym mis Mai ei fod eisiau "cydnabod canlyniad y refferendwm, sicrhau perthynas di-doll gydag Ewrop a datblygu undeb dollau i gyd-fynd â hynny".

"Ond dyw Ardal Economaidd Ewrop ddim yn cynnig hynny am nad yw'n rhoi'r pŵer i ni drafod telerau. Fe fyddwn ni'n ddilynwyr, nid crewyr rheolau yn hynny."