Castell Penfro yn ail agor wedi darganfyddiad 'amheus'

  • Cyhoeddwyd
Castell Penfro
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Heddlu Dyfed Powys eu galw i Gastell Penfro yn dilyn adroddiad fod eitem amheus wedi'i ddarganfod ar y safle am tua 12:30 ddydd Gwener.

Mae Castell Penfro wedi ail agor i'r cyhoedd yn dilyn ymchwiliad rhwng nifer o asiantaethau ar ôl i eitem â 'sylwedd anhysbys' gael ei ddarganfod yno.

Mae Heddlu Dyfed Powys bellach wedi cadarnhau nad oedd y sylwedd yn amheus na chwaith yn beryglus.

Yn wreiddiol fe gafodd yr heddlu eu galw yn dilyn adroddiad fod eitem amheus wedi'i ddarganfod ar y safle am tua 12:30 ddydd Gwener.

Roedd y castell ar gau am weddill dydd Gwener ac fe gafodd y daith ysbrydion arfaethedig ei ganslo.

Bellach mae'r gwasanaethau brys i gyd wedi gadael a does neb wedi'i hanafu yn ystod yr ymchwiliad.

Dywedodd llefarydd ar ran y llu eu bod yn "diolch i'r cyhoedd am eu hamynedd wrth i'r gwaith gael ei gwblhau."