Gething: 'Llafur methu cynnig mwy o'r un peth yn 2021'

  • Cyhoeddwyd
Vaughan Gething

All Llafur Cymru ddim mynd i'r etholiad Cynulliad nesaf yn cynnig mwy o'r un peth, meddai un o'r ymgeiswyr i arwain y blaid.

Dywedodd Vaughan Gething fod angen i'r blaid gydnabod methiannau ac ysbrydoli etholwyr pan fyddan nhw'n pleidleisio yn 2021.

Ychwanegodd fod angen i'r "genhedlaeth nesaf o arweinwyr gwleidyddol gael y dewrder i fod yn wahanol", gan geisio gwahaniaethu'i hun o'r ceffyl blaen, Mark Drakeford.

Mae Mr Drakeford wedi dweud y bydd yn "pontio" gyda'r genhedlaeth newydd wrth gamu o'r neilltu ar ôl ychydig flynyddoedd wrth y llyw.

Taclo tlodi

Dywedodd Mr Gething, yr Ysgrifennydd Iechyd, ei fod yn falch o'r hyn oedd wedi'i gyflawni yn ystod dau ddegawd datganoli, "ond dwi hefyd yn gwybod nad yw cynnig mwy o'r un peth yn ddigon da".

"Mae angen i'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr gwleidyddol gael y dewrder i fod yn wahanol, adeiladu ar y llwyddiannau a chydnabod y methiannau, i siapio dyfodol sy'n gweithio dros Gymru, a Llafur Cymru," meddai.

Dywedodd fod angen i Lafur Cymru wneud mwy i atal tlodi rhag cael ei basio o un genhedlaeth i'r llall.

"Bydd gweithredu yn y maes hwn yn diffinio ein llywodraeth os ydw i'n cael fy ethol," meddai mewn erthygl i'r Gymdeithas Fabian.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd Carwyn Jones yn camu o'r neilltu fel prif weinidog ac arweinydd Llafur Cymru ym mis Rhagfyr

Byddai comisiwn rhyng-genedliadol ar dlodi'n cael ei sefydlu a'i gadeirio gan weinidog newydd er mwyn gweithio ar bolisïau ar gyfer y maniffesto nesaf.

Ychwanegodd y dylai cynghorau, y gwasanaeth iechyd a'r llywodraeth sicrhau eu bod nhw'n cael "nid y pris isaf yn unig ond y gwerth cymdeithasol mwyaf i bobl Cymru" pan maen nhw'n prynu nwyddau a gwasanaethau.

Mae Llafur wedi sefydlu comisiwn gwaith teg i edrych ar warchod hawliau gweithwyr.

Ond dywedodd Mr Gething y byddai'n mynd yn bellach a gwneud "gwaith da" yn flaenoriaeth, gan weithio gydag undebau a busnesau i wella cynhyrchiant.

Yn ogystal â Mr Gething a Mr Drakeford, mae Huw Irranca-Davies ac Eluned Morgan hefyd wedi datgan bwriad i sefyll yn y ras arweinyddol.