Amseroedd aros adrannau brys: Mehefin gwaethaf ar gofnod

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Maelor Wrecsam
Disgrifiad o’r llun,

Dim ond 57.2% o gleifion gafodd eu gweld o fewn pedair awr yn Ysbyty Maelor Wrecsam

Nid yw ysbytai Cymru wedi cyrraedd targedau amseroedd aros mewn adrannau damweiniau ac achosion brys ym mis Mehefin, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.

Yn ôl Ystadegau Cymru, cafodd 83.2% o gleifion eu gweld o fewn pedair awr - ffigwr sy'n welliant ar fis Mai eleni, ond yn is nag unrhyw fis Mehefin yn y gorffennol.

Y targed yw i 95% o gleifion gael eu gweld o fewn pedair awr o gyrraedd adran ddamweiniau ac achosion brys.

Roedd y perfformiad gwaethaf yn Ysbyty Maelor Wrecsam, gydag ond 57.2% o gleifion wedi eu trin o fewn yr amser, gydag Ysbyty Glan Clwyd wedi trin 62.3% o fewn y cyfnod.

Ers mis Ionawr eleni, mae adrannau brys Maelor Wrecsam a Glan Clwyd wedi bod ymhlith y gwaethaf am gyrraedd y targed o weld cleifion o fewn pedair awr.

Yn ogystal, ni ddylai'r un claf orfod aros mwy na 12 awr cyn cael eu gweld.

Fodd bynnag, mae'r niferoedd dros Gymru wedi codi - gyda 2,910 o gleifion wedi aros dros 12 awr ym mis Mehefin.

Mae'r ffigwr yn 649 yn fwy na'r nifer bu'n gorfod aros cyhyd llynedd.

Ysbyty Glan Clwyd oedd â'r nifer uchaf o gleifion yn aros dros 12 awr - gyda 661 ym mis Mehefin wedi aros dros 12 awr i weld meddyg.

Ymhlith yr adrannau sy'n perfformio orau mae Ysbyty Brenhinol Morgannwg, gyda 92.4% wedi cael eu gweld o fewn pedair awr, ac Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd gyda 90.4%.

Mae ystadegau blynyddol hefyd wedi dangos bod y nifer sy'n mynychu adrannau damweiniau ac achosion brys wedi cyrraedd 1 miliwn rhwng 2016-17.

Roedd hynny'n 15,257 o gleifion yn fwy na'r flwyddyn flaenorol.