'Bygythiadau' wrth wraidd ymddiswyddiad Plaid Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae trysorydd Plaid Cymru wedi ymddiswyddo o'i rôl gan honni iddo dderbyn bygythiadau gan aelodau o dîm Leanne Wood.
Mae Nigel Copner yn aelod o'r blaid ym Mlaenau Gwent, a daeth y bygythiadau honedig ar ôl i'r gangen ddatgan eu cefnogaeth i ymgyrch Rhun ap Iorwerth i arwain y blaid.
Yn ôl Mr Copner dywedodd tîm Ms Wood wrthyn nhw am "anghofio am unrhyw gymorth" yn y dyfodol.
Dywedodd llefarydd ar ran Ms Wood nad oedd hi'n cydnabod y sylwadau.
Roedd y llefarydd hefyd yn gwadu eu bod wedi derbyn unrhyw gwynion am honiadau o'r fath.
Yn yr e-bost lle ymddiswyddodd Mr Copner fel trysorydd, dywedodd fod bygythiadau tebyg hefyd wedi digwydd ar "lefelau is".
"Rydw i wir yn coelio'r bygythiadau hefyd, gan ystyried digwyddiadau'r gorffennol," meddai.
Ymddygiad 'siomedig'
Mae'r e-bost, gafodd ei yrru i brif weithredwr y blaid Gareth Clubb, Ms Wood, cadeirydd y blaid Alun Ffred Jones, a'r arweinydd seneddol Liz Saville Roberts, hefyd yn cynnwys beirniadaeth ehangach o'r blaid.
Soniodd Mr Copner am "weithdrefnau aneffeithiol o fewn y blaid" gan ddweud bod angen "sortio'i hun allan" os am fod ag unrhyw siawns o gipio pŵer.
Yn ogystal â dweud nad oedd yn adnabod sylwadau Mr Copner, ychwanegodd llefarydd ar ran Leanne Wood: "Fel y dywedon ni o'r dechrau, rydyn ni'n canolbwyntio ar gael ymgyrch arweinyddol bositif a buaswn yn annog unrhyw aelodau i fynd drwy'n dulliau priodol i wneud cwyn am gyd-aelodau."
Dywedodd Mr ap Iorwerth, un o'r rhai sy'n herio Ms Wood am yr arweinyddiaeth, ei fod wedi "siomi" o glywed am ymddygiad o'r fath.
Ychwanegodd: "Ni fydd unrhyw sylwadau pellach gan fy mod i'n benderfynol o weld ymgyrch bositif sy'n canolbwyntio ar yr hyn fedrwn ei gynnig i'r blaid ac i Gymru, yn hytrach na beirniadu eraill."
Dywedodd Adam Price, sydd hefyd yn y ras ar gyfer yr arweinyddiaeth, ei fod yn "drist" i glywed am ymddiswyddiad Mr Copner.
Mae llefarydd ar ran Plaid Cymru wedi diolch i Mr Copner am ei waith dros y blaid, ond dweud nad ydyn nhw'n "cydnabod ei sylwadau" am weithdrefnau'r blaid.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2018