Cyhuddo cyn-reolwr swyddfa Aelod Seneddol o dwyll
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-reolwr swyddfa i Aelod Seneddol Dwyrain Abertawe, Carolyn Harris wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o dwyll a ffugio.
Cafodd Jenny Lee Clarke ei chyhuddo o roi codiad cyflog o £2,000 i'w hun a lleihau ei horiau gwaith heb i'w chyflogwr awdurdodi hynny yn 2015.
Dywedodd Ms Clarke, sy'n 42 ac o Abertawe, mai Ms Harris oedd wedi dweud wrthi am wneud.
Mae wedi pledio'n ddieuog i'r cyhuddiadau yn ei herbyn.
'Heb weld y ffurflen'
Dywedodd Jim Davis ar ran yr erlyniad fod IPSA, y corff sy'n gyfrifol am gyflogau seneddol, wedi derbyn ffurflen gan Ms Clarke yn lleihau ei horiau wythnosol o 40 i 37.5.
Roedd ei chyflog hefyd wedi ei newid o £37,000 i £39,000, a hynny o 16 Gorffennaf 2015 ymlaen, gyda llofnod honedig gan Ms Harris ar y ffurflen.
Ond dywedodd Mr Davis fod Ms Harris, gafodd ei hethol yn ddirprwy arweinydd Llafur Cymru yn gynharach eleni, "erioed wedi gweld y ffurflen yma o'r blaen" ac "erioed wedi'i arwyddo".
Ychwanegodd Mr Davis fod y diffynnydd wedi cyfaddef mai hi oedd wedi arwyddo'r ffurflen yn enw Ms Harris.
"Ond mae hi'n dweud ei bod hi wedi gwneud hynny gyda sêl bendith Carolyn Harris," meddai.
Cafodd Ms Clarke ei phenodi'n rheolwr ar y swyddfa yn 2015, yn dilyn yr etholiad cyffredinol ble daeth Ms Harris yn AS.
Clywodd y llys ei bod hi wedi cymryd y swydd oedd yn arfer cael ei gwneud gan Ms Harris ar gyfer y cyn-AS, Sian James.
Ond fe wnaeth perthynas Ms Clarke a Ms Harris "ddirywio" wedi i Ms Clarke gael cais i gynyddu cyflog aelod arall o staff - rhywbeth doedd hi ddim yn teimlo oedd yn "haeddiannol".
Fe wnaeth e-bost gan IPSA i Mrs Harris ar 18 Awst 2015 ofyn am gadarnhad o'r newidiadau i gytundeb gwaith Ms Clarke.
Cafwyd ateb yn dweud: "Ydy, mae hynny'n gywir. Diolch."
Yn ôl yr erlyniad fodd bynnag, mae Ms Harris yn dweud na chafodd hi e-bost am y cyflog ac na wnaeth hi anfon yr ateb ar 19 Awst.
Mae'r achos yn Llys y Goron Caerdydd yn parhau.