Galw am fwy o ganolfannau i ailgylchu gwastraff fferm

  • Cyhoeddwyd
Farm plastics for recycling

Mae angen i fwy o ganolfannau ailgylchu fod yn barod i dderbyn gwastraff plastig o ffermydd, yn ôl cwmni rheoli gwastraff.

Dywedodd Birch Farm Plastics ei bod hi'n "hurt" mai dim ond un canolfan o'r fath sydd yng Nghymru ar hyn o bryd.

Mae 30% o'r gwastraff a gynhyrchwyd ar ffermydd yn blastig amaethyddol, yn ôl ffigyrau Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Hannah Blythyn ei bod hi'n "bwysig sicrhau fod y seilwaith yn ei le".

Cymru 'ar flaen y gad'

Mae'r teulu Birch o Bontardawe wedi bod yn casglu plastig o ffermydd am 25 mlynedd.

Dyma'r unig gwmni sy'n canolbwyntio ar gasglu plastig amaethyddol yn unig, ac maen nhw bellach yn gwasanaethu ar hyd y DU.

Disgrifiad o’r llun,

Mae gwastraff plastig yn gallu cael ei ddefnyddio i wneud dodrefn i'r ardd.

Yn ôl Marilyn Birch, un o sylfaenwyr y cwmni, mae ffermwyr Cymreig wedi bod ar flaen y gad wrth fynd i'r afael â gwastraff plastig.

Roedd nifer o ffermwyr o Gymru yn ailgylchu eu deunydd gwastraff ymhell cyn i reolau gael eu cyflwyno yn 2006, ond ers i raglen Blue Planet 2 gael ei ddarlledu ar y BBC, mae'r galw am y gwasanaeth wedi cynyddu.

"Mae ffermwyr wir wedi cydio yn y syniad, maen nhw eisiau lleihau eu gwastraff... felly mae angen i ni ddarparu'r cyfleusterau i ddelio gyda hynny.

"Does dim ond un canolfan yng Nghymru, un yn Lloegr ac un yn Yr Alban - tri chanolfan ar hyd Prydain sy'n delio â gwastraff amaethyddol - mae'n hurt."

Dywedodd fod angen i'r llywodraeth edrych ar sefydlu mwy o ganolfannau yn y DU, gan "nad oes pwrpas casglu'r gwastraff os nad oes rhywle iddo gael ei ailgylchu".

Mwy o'r Sioe Frenhinol

Mae taclo gwastraff plastig yn un o'r pynciau dan sylw yn y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd.

Cafodd biniau ailgylchu newydd yn ogystal ag arwyddion ar gyfer tapiau dŵr yfed eu cyflwyno i'r sioe eleni.

Yn ôl Steve Hughson, Prif Weithredwr y Sioe Frenhinol mae'r sioe yn gweithredu er mwyn sicrhau eu bod nhw'n "cryfhau'r cyfleusterau ailgylchu ar faes y sioe".

"Rydyn ni hefyd yn cydweithio'n agos gyda'n partneriaid, contractwyr a chyflenwyr i sicrhau, pan fo'n bosib, bod defnydd plastig tafladwy yn cael ei leihau a bod opsiynau pydradwy yn eu lle.

"Gyda hyn mewn golwg, hoffwn annog ymwelwyr i'r sioe i ddod a'u cwpanau eu hunain a'u llenwi yn y tapiau dŵr drwy gydol y dydd."

Dywedodd Ms Blythyn, sydd hefyd yn y sioe: "Mae hi'n bwysig iawn gweithio gyda ffermwyr a busnesau eraill i sicrhau ein bod ni'n gweithredu gyda'n gilydd".