Beirniadu penodiad AS o Loegr yn weinidog Swyddfa Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth y DU wedi cael eu cyhuddo o "ddirmyg" wedi iddyn nhw i benodi AS arall o Loegr yn is-weinidog newydd yn Swyddfa Cymru.
Cafodd Mims Davies ei phenodi'n is-weinidog yn Swyddfa Cymru ddydd Iau.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns bod Ms Davies yn "AS ffantastig" a bod ganddi'r gallu i ddefnyddio'i sgiliau yn y ffordd orau i gefnogi economi Cymru.
Ond mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood wedi galw'r sefyllfa yn "jôc".
'Jôc'
Mae Ms Davies yn cynrychioli etholaeth Eastleigh yn Hampshire ac yn cyfuno'i swydd ddi-dâl newydd yn Swyddfa Cymru gyda'i dyletswyddau fel dirprwy chwip y llywodraeth.
Fe wnaeth hi astudio ei gradd mewn Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae hi'n olynu Stuart Andrew, AS o Sir Efrog, sydd wedi symud i hen swydd Guto Bebb, AS Aberconwy, yn y Weinyddiaeth Amddiffyn.
Ymddiswyddodd Mr Bebb o'r swydd honno yn dilyn ffrae am Brexit.
Wrth groesawu'r apwyntiad dywedodd Mr Cairns y byddai Ms Davies yn "defnyddio ei sgiliau aruthrol yn y ffordd orau a chwarae rôl allweddol wrth gyflwyno erthyglau sy'n cefnogi twf economi Cymru."
Serch hynny, mae rhai gwleidyddion o Lafur a Phlaid Cymru wedi beirniadu'r penodiad.
Ar ei chyfrif Twitter dywedodd Leanne Wood fod y sefyllfa'n "jôc Ffŵl Ebrill hwyr arall gan y Torïaid", gan ychwanegu: "Byddai'n amhosib dychmygu'r ffasiwn stori."
Dywedodd yr Ysgrifennydd Llywodraeth Leol, Alun Davies: "AS arall o Loegr wedi eu penodi i Swyddfa Cymru... dyma beth mae Theresa May yn meddwl o'i grŵp o Geidwadwyr Cymreig."
Ychwanegodd AS Plaid Cymru dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Jonathan Edwards: "Mae'r ffaith bod Llywodraeth San Steffan wedi penodi AS arall o'r tu allan i Gymru i Swyddfa Cymru eto yn dangos eu dirmyg cynyddol tuag at ein gwlad.
"Fel rhywun sy'n cynrychioli etholaeth tu allan i Gymru, ac felly'n annhebygol o ddeall anghenion unigryw ein heconomi a'n cymunedau, mae Mims Davies AS hefyd wedi gwrthsefyll dro ar ôl tro ar bleidleisiau pwysig neu'n gwrthwynebu datganoli pwerau allweddol i Gymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd21 Ionawr 2018