Sychder yn datgelu rhai o olion Capel Celyn
- Cyhoeddwyd
Ymysg yr olion sydd wedi dod i'r golwg yn y tywydd sych mae arwydd ag arno enw un o'r tai a foddwyd yng Nghapel Celyn i greu cronfa ddŵr Llyn Celyn ger y Bala.
Wrth dynnu lluniau, dolen allanol ar lannau sych y llyn sylwodd Mabon ap Gwynfor ar arwydd ffermdy Garnedd Lwyd wedi ei folltio ar graig a'i olchi gan flynyddoedd o ddŵr Tryweryn.
"O'r holl bethau oedd i'w gweld, y Garnedd Lwyd oedd y tristaf," meddai Mabon ap Gwynfor.
"Roedd yr arwydd yn dod â'r holl beth yn fwy byw rywfodd.
"Hefyd oddi tan y garreg honno roedd yna lechi mawr - llawr y tŷ neu sied mae'n siŵr.
"Roedd y cyfan yn creu'r argraff o fedd, oedd yn teimlo'n addas iawn rhyw ffordd."
Roedd Garnedd Lwyd yn un o 12 fferm a foddwyd gyda'r pentref yn 1965 pan grëwyd y gronfa ddŵr ar gyfer dinas Lerpwl, ac effeithiwyd ar diroedd pedair fferm arall.
Mr John William Evans a Mrs Mabel Evans oedd yn byw yno ac mae lluniau ohonyn nhw'n gadael eu cartref yn 1961, dolen allanol yng nghasgliad enwog Geoff Charles o ddyddiau olaf Capel Celyn.
Cafodd Mr a Mrs Evans eu lladd mewn damwain car ger Cerrigydrudion yn fuan wedi i'r lluniau gael eu tynnu.
Ond nid arwydd gwreiddiol yr hen ffermdy yw'r plac.
Mae fideo o archif ITV Cymru o 1989, dolen allanol yn dangos ei fod yn un o nifer a osodwyd ar safle'r hen dai yn ystod haf sych 1989 pan ostyngodd lefel y dŵr yn y llyn i ddatgelu olion y pentref, gan gynnwys y bont a lleoliad yr hen fynwent.
Gwnaed y cais i Dŵr Cymru am y placiau bryd hyn gan y cynghorydd lleol, Elwyn Edwards fel bod pobl yn gallu gweld lle roedd yr hen dai.
Cyhoeddodd Corfforaeth Lerpwl ei bod am adeiladu cronfa ddŵr newydd yng Nghwm Tryweryn ar gyfer y ddinas yn 1955.
Er y protestiadau a gwrthwynebiad gwleidyddion ac aelodau seneddol Cymru cafodd mesur ei basio yn y senedd yn 1957 i foddi pentref Capel Celyn a dechreuodd y gwaith yn 1958.
Roedd y gwaith wedi ei orffen yn 1965. Yn ogystal â'r ffermydd boddwyd 800 erw o dir y cwm, yr ysgol, llythyrdy, capel a'r fynwent i greu'r gronfa.
Yn 1989 doedd Dŵr Cymru ddim yn gwybod pryd y byddai'r placiau'n dod i'r golwg eto.
Os yw dŵr y llyn yn gostwng ymhellach gyda'r tywydd sych, tybed pa olion eraill ddaw i'r golwg?
Hefyd o ddiddordeb: