Diffyg gwasanaeth meddyg teulu tu hwnt i oriau arferol
- Cyhoeddwyd
Dim ond mewn dau o fyrddau iechyd Cymru mae hi'n bosib gweld meddyg teulu yn hwyr yn y dydd, yn ôl ffigyrau.
Yn y saith bwrdd iechyd yng Nghymru, dim ond chwarter o feddygfeydd meddygon teulu oedd a darpariaeth hwyr i gleifion dwywaith yr wythnos.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneirin Bevan a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw'r unig ddau oedd yn cynnig apwyntiadau i gleifion ar ôl 18:30.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n gweithio ar wella mynediad pobl at feddygon teulu.
Cyhoeddwyd ffigyrau yn gynharach eleni yn dangos faint o feddygfeydd oedd yn cynnig apwyntiadau cyn 08:30 o leiaf dwywaith yr wythnos, rhai rhwng 18:00 a 18:30 a rhai ar ôl 18:30.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneirin Bevan, sy'n gweithredu ar hyd Morgannwg a rhannau o Went a de Powys, oedd ar frig y rhestr o ran apwyntiadau hwyr - gyda 41% o feddygfeydd yn cynnig y gwasanaeth.
Yr unig ardal arall a gynigiai'r gwasanaeth oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, sy'n gyfrifol am Sir Gar, Sir Benfro a Cheredigion, ond dim ond 1 allan o bob 10 oedd yn cynnig yr apwyntiadau'n wythnosol.
'Pryderu' ers tro
Yn ôl y ffigyrau, roedd 20% o feddygon teulu ar hyd Cymru yn gallu cynnig apwyntiadau cynnar cyn 08:30.
Dywedodd BMA Cymru, y corff sy'n gyfrifol am feddygon teulu Cymru, eu bod nhw'n pryderu am wasanaeth tu allan i'r oriau arferol ers tro.
Yn ôl Dr Charlotte Jones, Cadeirydd Pwyllgor Meddygon Teulu Cymru y BMA, mae'r "pwysau ar feddygon teulu Cymru yn cynyddu".
"Mae'r sialens o recriwtio a chadw staff presennol yn rhoi'r holl system dan straen gwirioneddol, sy'n arwain at fwy o feddygon yn dewis i adael y proffesiwn."
"Gyda diffyg adnoddau a buddsoddiad newydd mewn gwasanaeth estynedig, dydi hi ddim yn syndod fod meddygon yn rhy flinedig i weithio tu allan i oriau arferol."
Gwella amseroedd agor meddygon teulu oedd un o amcanion Llywodraeth Cymru yn 2013, pan ddywedodd y Gweinidog Iechyd ar y pryd, Lesley Griffiths, bod ffocws ar ehangu oriau agor heibio 18:30.
Pwysleisiodd llefarydd ar ran Lywodraeth Cymru nad oedd targed penodol wedi ei osod ar gyfer darpariaeth apwyntiadau meddygon teulu tu hwnt i oriau arferol.
"Disgwyliwn ni fod y byrddau iechyd yn darparu gofal sydd yn ateb gofynion eu cleifion, ond dylid nodi nad yw hyn i gyd am feddygon teulu." meddai'r llefarydd.
"Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos fod mwy o apwyntiadau nawr ar gael i bobl ar amseroedd cyfleus, ac rydym ni'n gweithio gyda'r byrddau iechyd a meddygon teulu i wella mynediad at y gwasanaeth ymhellach."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd14 Mai 2018
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2018