Helen Mary Jones i olynu Simon Thomas fel Aelod Cynulliad

  • Cyhoeddwyd
Helen Mary Jones

Bydd Helen Mary Jones yn dychwelyd i'r Cynulliad er mwyn cymryd lle Simon Thomas, a ymddiswyddodd yr wythnos ddiwethaf.

Ms Jones, a fu'n AC rhwng 1999 a 2011, oedd yr enw nesaf ar restr ranbarthol y blaid ar gyfer Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Ymddiswyddodd Mr Thomas o'r Cynulliad ar 25 Gorffennaf ar ôl cael ei arestio gan heddlu sy'n ymchwilio i honiadau'n ymwneud â delweddau anweddus.

Wrth gyfeirio at ei phenodiad yn sgil ymddiswyddiad Simon Thomas, dywedodd ei bod yn "tristáu" at yr amgylchiadau.

Tyngu llw

Dan y system rhestrau rhanbarthol, sy'n ethol 20 o'r 60 AC, mae pleidleiswyr yn dewis rhestr o aelodau plaid yn hytrach nag ymgeisydd penodol.

Pan fod AC rhanbarthol yn ymddiswyddo, fel arfer maen nhw'n cael eu holynu gan y person oedd nesaf ar y rhestr ar gyfer eu plaid yn yr etholiad Cynulliad diwethaf ar gyfer y rhanbarth.

Bydd hi'n tyngu llw mewn seremoni breifat ym Mae Caerdydd ddydd Iau.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd Helen Mary Jones yn cymryd lle Simon Thomas yn y Cynulliad

Mae Ms Jones yn gyn-gadeirydd ar Blaid Cymru ac yn fwy diweddar mae hi wedi bod yn gweithio ym Mhrifysgol Abertawe.

Roedd Ms Jones yn AC rhwng 1999 tan 2011 pan gollodd ei sedd yn Llanelli i Keith Davies o'r Blaid Lafur o 80 pleidlais.

'Rhoi fy ngorau'

Ym mis Tachwedd 2011 cafodd ei phenodi'n brif weithredwr Youth Cymru, elusen sy'n gweithio gyda sefydliadau pobl ifanc ar draws Cymru.

Fe wnaeth Ms Jones sefyll eto yn etholaeth Llanelli dros Blaid Cymru yn etholiad Cynulliad 2016, ond collodd o 382 pleidlais i Lee Waters o'r Blaid Lafur.

Wrth ddatgan ei bwriad i ddychwelyd i'r Cynulliad, dywedodd Ms Jones ei bod hi'n "wir anrhydedd" i gynrychioli'r rhanbarth y bu yn ei chynrychioli unwaith o'r blaen, rhwng 2003 a 2007.

Ychwanegodd Ms Jones ei bod yn teimlo bod "cryn waith i'w wneud yn cynrychioli pobl Canolbarth a Gorllewin Cymru ac yn rhoi'r llais cryfaf posib iddyn nhw a'u cymunedau yn ein senedd genedlaethol".

"Rydw i'n edrych ymlaen at roi o fy ngorau dros y rhanbarth a dros Gymru," meddai.