'60% o ofalwyr ifanc yn teimlo'n unig dros wyliau'r haf'
- Cyhoeddwyd
Mae 62% o ofalwyr ifanc yng Nghymru yn teimlo'n unig yn ystod gwyliau'r haf, yn ôl gwaith ymchwil gan elusen.
Mae Action for Children a Ymddiriedolaeth y Gofalwyr yn dweud bod oddeutu 700,000 o bobl ifanc ar hyd y DU yn gofalu am aelodau o'r teulu sydd ag anabledd neu salwch.
Yn ôl prif weithredwr Ymddiriedolaeth Gofalwyr, mae'r haf yn gallu bod yn gyfnod "aruthrol o anodd" i ofalwyr ifanc, ac mae angen i gynghorau gynnig gwasanaethau y tu hwnt i'r tymor ysgol.
Mae'r arolwg - sy'n cynnwys barn 110 o ofalwyr dan 18 oed - yn dangos bod 63% o ofalwyr ifanc yn teimlo'n fwy pryderus yn ystod y gwyliau, a hanner (49%) yn poeni am sgwrsio am eu gwyliau wedi iddynt ddychwelyd i'r ysgol.
Yn ôl yr arolwg, mae dros draean (35%) gafodd eu holi yn treulio dros bedair awr y dydd yn gofalu am aelod o'r teulu yn ystod y gwyliau - cyfanswm o wythnos gyfan o'r gwyliau.
Mae Action for Children ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn galw am sicrhau bod awdurdodau lleol yn derbyn arian i gefnogi gofalwyr ifanc.
Heb gymorth, mae'r elusennau yn pryderu nad yw plant bregus na theuluoedd yn derbyn y gefnogaeth sydd eu hangen arnynt, problem sydd yna'n effeithio ar gyfleoedd bywyd gofalwyr ifanc.
'Gallu teimlo'n unig iawn'
Mae Oliver Davies, sy'n 12 oed, yn helpu ei fam ofalu am ei frawd, Leo, naw oed, sy'n dioddef o fath o awtisitiaeth o'r enw pathological demand avoidance.
Dywedodd Oliver ei fod e neu'i fam angen bod gyda'i frawd o hyd, a nhw yw ei brif ofalwyr yn ystod y gwyliau.
"Mae Mam a fi'n gorfod bod yn ofalus iawn am fod Leo'n teimlo ei fod angen dianc o sefyllfa pan fydd yn bryderus, gan arwain at allu niweidio ei hun neu eraill.
"Dwi wedi dysgu sut i gadw llygad arno ac yn gallu adnabod peryglon yn y tŷ neu tu allan yn gyflym.
"Dwi'n caru fy mrawd ac mae'n normal i fi edrych ar ei ôl e a helpu Mam pan alla' i, ond dwi'n gallu teimlo'n unig iawn yn ystod y gwyliau haf.
"Dydyn ni ddim yn gallu cael gwyliau ac mae diwrnodau allan hyd yn oed yn anodd."
Mae Cyngor Sir Peny-bont yn dweud bod cefnogaeth y teulu'n "cael ei adolygu" i sicrhau eu bod yn derbyn cymorth digonol.
Yn ôl Cyfarwyddwr Cenedlaethol Action for Children, Brigitte Gater, mae gwyliau'r haf yn gallu bod yn gyfnod "torcalonnus" i ofalwyr ifanc, wrth iddynt wylio eu ffrindiau yn mwynhau yn yr haul ac yn mynd ar wyliau teuluol.
Dywedodd Ms Gater: "Rydym yn gweld yn uniongyrchol effaith ofnadwy straen ac unigrwydd ar ofalwyr ifanc sy'n gofalu am aelodau o'u teuluoedd.
"Mae'r plant yn aml yn crefu am seibiant o'u dyletswyddau gofalu ac eisiau cael hwyl gyda'u ffrindiau, dyna pam fod gwasanaethau seibiant mor bwysig iddynt."
Dywedodd Giles Meyer, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Gofalwyr, bod yr haf yn gyfnod "aruthrol o anodd" a bod risg i ofalwyr deimlo dan fwy o bwysau, yn fwy unig ac yn dristach nag arfer.
Er bod gan yr ymddiriedolaeth raglen yn ei le yn ystod y tymor ysgol, mae Mr Meyer yn galw ar gynghorau lleol i gamu i'r adwy yn ystod gwyliau'r haf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd31 Mai 2018
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2016